Archwiliwch Eich Syniadau
Rydym yn gobeithio eich bod yn cadw’n ddiogel yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud. Rydym wedi derbyn ychydig o ymholiadau oddi wrth bobl ifanc sy’n awyddus i ystyried eu syniadau busnes yn ystod y cyfnod hwn ac rydym wedi rhoi ein hadnoddau digidol gorau yn yr un lle.
Wrth gwrs, os ydych yn teimlo eich bod yn barod i lansio eich busnes a’ch bod yn awyddus i siarad â rhywun, gall cynghorwyr Syniadau Mawr Cymru eich helpu. Llenwch y ffurflen hon i drefnu galwad ffôn.
Cofiwch, os ydych chi, eich teulu neu eich ffrindiau eisoes â busnes cofiwch fynd i wefan Busnes Cymru i weld yr wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i Fusnesau yn sgil Covid-19 https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy