Ydych chi’n 11-18 oed?  Oes gennych chi ddiddordeb mewn Dechrau Rhywbeth Da?

Mae’r Her hon ar eich cyfer chi os hoffech chi wneud gwahaniaeth yn y byd, os oes gennych rai syniadau gwych, a’ch bod eisiau datblygu rhai sgiliau mentrus newydd! Mae yna fudiad cynyddol o bobl ifanc ledled Cymru sydd eisiau gwneud rhywbeth da, a thrwy gymryd rhan yn yr Her yma, byddwch chi’n un ohonyn nhw! Chi yw’r genhedlaeth sy’n mynd i wneud gwahaniaeth a gwella bywydau pobl.

Edrychwn ymlaen i glywed gennych chi. Pob lwc! Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm drwy: ymholiadau@syniadaumawrcymru.com

Ein Partneriaid

Mae Syniadau Mawr Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, Simply Do & UnLtd ac fe’ch heriwn i Ddechrau Rhywbeth Da