Y Criw Mentrus

Mae cofrestriadau Her newydd sbon Y Criw Mentrus ar gyfer Ysgolion Cynradd 2023-24 yn awr ar agor!

Bwriad yr Her yw meithrin ymagweddau entrepreneuraidd ymhlith plant Cymru. Mae’n cyfuno'r wefr o fod yn berchen busnes gyda dysgu sgiliau newydd, gwerthfawr mewn creadigrwydd, datrys problemau, cyfathrebu, trefniadaeth, gan ddatblygu eu hyder mewn llythrennedd a rhifedd ar yr un pryd.

Sut ydym yn cymryd rhan?

Mae’r Her yn agored i holl ysgolion cynradd yng Nghymru ac rydym yn annog cyfnodau cynradd Is a chynradd Uwch i gymryd rhan. Her yw hon ar gyfer ysgolion sydd eisoes yn cynnal clwb menter neu sydd wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau a heriau menter eraill yn ogystal â’r rhai sy’n awyddus i roi cynnig arni.  Nid oes ots pa fath o fenter ydyw, y cyfan sydd angen yw ei fod yn weithgaredd wedi ei arwain gan y disgyblion ac yn seiliedig ar waith tîm.

Mae unrhyw brosiect sydd wedi bod ar y gweill ers 1 Ionawr 2023 yn gymwys, felly hefyd unrhyw beth rydych wedi ei gynllunio hyd at  4pm ar 17 o Fai 2024, sef y dyddiad cau.

Fe wahoddir yr ysgolion, sy’n cofrestru ar gyfer yr Her erbyn y dyddiad cau, i un o’r pum digwyddiad Arddangosfa Ranbarthol a gynhelir ledled Cymru rhwng diwedd Mehefin a chanol Gorffennaf 2024. Bydd y digwyddiadau dathliadol, hwyliog yma yn gyfle i ysgolion arddangos eu mentrau, gwerthu eu cynnyrch a chymryd rhan mewn profiadau dysgu wedi’u harwain gan fusnes ac sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru.

 

 

Sut gall Y Criw Mentrus helpu?

Nod adnoddau newydd Y Criw Mentrus  yw ysbrydoli plant ac athrawon ynglŷn â’r pleser o ddarganfod syniad busnes gwych, y wefr a ddaw o’r gwerthiant cyntaf a’r boddhad o helpu eu cymuned leol.

Edrychwch ar y gweithgareddau dysgu hwyliog hyn ar gyfer grwpiau oedran  cynradd is  a chynradd uwch i gynorthwyo i ddatblygu gwaith tîm, a sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Maent hefyd yn datblygu uchelgais, menter, creadigrwydd a masnachu egwyddorol  - gan gefnogi pedwar diben y  Cwricwlwm i Gymru

Edrych am ysbrydoliaeth? Edrychwch ar "Addysg Menter a'r Pedwar Diben", stori pedair ysgol yng Nghymru sydd wedi cyfoethogi eu cwricwlwm trwy weithgareddau menter, gan ysbrydoli pob plentyn a gymerodd ran. 

Gallwch hefyd edrych ar ein rhestr chwarae YouTube o Ysgolion Criw Mentrus y gorffennol - pob un ohonynt yn dîm o entrepreneuriaid, ysbrydoledig, llwyddiannus.

Bydd yr holl ysgolion sy’n cofrestru eu syniad menter ar-lein yn derbyn pecyn adnoddau, tystysgrif a bathodyn digidol i gydnabod eu sgiliau entrepreneuriadd. 

Os byddwch yn rhannu lluniau o’ch menter er mwyn eu hychwanegu at oriel Y Criw Mentrus, cewch hefyd eich cynnwys mewn raffl fisol gyda gwobrau ar-y-pryd gwych ar gyfer eich ysgolion

Ble ydw i yn cofrestru?

Cofrestrwch eich diddordeb heddiw. Mae gennych ddigon o amser i feddwl am syniadau busnes a’u rhoi ar waith cyn y dyddiad cau ar 17 o Fai 2024, ac ni fyddwch eisiau colli’r cyfle i ennill y gwobrau misol!

Cofrestrwch yma

Cyfleoedd i Noddi

Rydym yn chwilio am sefydliadau fyddai'n gallu cynorthwyo mewn amrywiaeth o ffyrdd i gefnogi Her y Criw Mentrus, pa unai trwy nawdd, anrhegion mewn nwyddau, cyfraniadau neu wirfoddoli. Helpwch ni i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd mewn ysgolion cynradd yng Nghymru - cliciwch yma i ddarganfod sut gallwch fod yn rhan ohono.

Adnoddau

Dyma rai adnoddau ac astudiaethau achos i helpu gyda'ch gweithgaredd a dangos sut mae'n cysylltu â'r cwricwlwm