Cychwyn Busnes o Gartref
Nid yw pob busnes yn cael ei redeg o ffatri neu eiddo masnachol. Mae rhai pobl yn cychwyn ac yn rhedeg busnesau o’u cartrefi.
Os wyt ti’n meddwl cychwyn dy fusnes dy hun, dylet ystyried y posibilrwydd o weithio o gartref gan y gallai hyn dy helpu:
- Arbed ar gostau cychwynnol gan nad oes angen adeilad
- Arbed amser a fyddai’n cael ei dreulio’n chwilio am eiddo addas
- Osgoi cael dy glymu fewn i gytundebau tenantiaeth
- Cael cymorth gan deulu a ffrindiau
- Oriau hyblyg, yn enwedig os wyt ti dal mewn addysg neu’n gweithio
- Arbed amser sy’n cael ei dreulio ac arian sy’n cael ei wario ar deithio i’r gwaith
Ond mae hefyd nifer o ystyriaethau, yn enwedig os wyt ti’n byw gartref neu mewn llety rhent. Gall gweithio o gartref effeithio ar forgais, yswiriant cartref, treth, pobl eraill sy’n byw yn y t?, a hyd yn oed dy gymdogion.
Efallai y byddi hefyd yn cael trafferth gyda:
- Gwrthdyniadau ac ymyriadau
- Unigrwydd neu arwahanrwydd
I gael gwybod mwy am redeg busnes o dy gartref, darllena’r canllaw ar wefan Busnes Cymru yn y ddolen hon Cychwyn Busnes o Gartref (gwefan Busnes Cymru).
Am fwy o wybodaeth am ddewis eiddo am eich busnes, mynd i Canllaw Eiddo Busnes Cymru
Chwiliwch dryw Gronfa Ddata Eiddo Busnes Cymru ar gyfer tir ac eiddo masnachol sydd ar werth ac ar rent ar hyd a lled Cymru