Meddwl yn ddwfn

Oes gen ti ddiddordeb mewn gweithio i chdi dy hun, ond angen syniad mawr?

Paid â phoeni!  Gelli gymell dy hun mewn sawl ffordd i ddechrau meddwl yn greadigol.

Mae digon o syniadau busnes ar gael, ac mae llawer ohonynt yn dy ymennydd eisoes, heb yn wybod i chdi. Y cyfan y mae angen i ti ei wneud yw canfod ffordd o ddod o hyd iddynt.

Bydd y pwyntiau a ganlyn yn ddefnyddiol i chdi wrth i ti fynd i’r afael â’r dasg:

  • Beth wyt ti’n fwynhau ei wneud, beth sy’n mynd â dy fryd?
  • Fyddet ti’n medru troi’r diddordebau hyn neu unrhyw sgiliau arbennig wyt ti’n feddu arnynt mewn i fusnes?
  • Gofynna i dy ffrindiau a dy deulu am syniadau. Efallai eu bod mewn swydd neu yrfa lle bo bwlch amlwg yn y farchnad.
  • Meddylia am dy ardal leol.  A fu angen cynnyrch neu wasanaeth arnat yn lleol erioed, nad oedd ar gael ar y pryd?  Fyddet ti’n medru llenwi’r bwlch hwnnw yn y farchnad?
  • Cymer gipolwg ar yr hyn yr wyt yn ei brynu.  Elli di wella’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mewn unrhyw ffordd?
  • Beth am fynd i wneud rhywbeth - chwarae gêm, darllen llyfr, paentio llun, cymryd rhan mewn chwaraeon – gwna rhywbeth sy’n peri i chdi feddwl, ac yna sianelu’r egni hwnnw i greu syniad/cysyniad/cynnyrch.
Explore your business idea with the Big Ideas Wales Factsheets

Ysgrifenna dy syniadau ar bapur, waeth pa mor fawr neu fach a hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn ffôl i ddechrau.

Os oes gen ti yrfa mewn golwg, gwych, dwyt ti byth yn gwybod – efallai y byddi di’n ei droi mewn i fusnes dy hun un diwrnod?

Archwilia syniadau busnes naill i gychwyn un dy hun neu rai sy’n gweddu gyda dy uchelgeisiau gyrfaol drwy gofrestru ar gyfer ein Proffiliau Cyfle Busnes (Saesneg yn unig).

I ddysgu mwy am ddatblygu dy syniad busnes, darllena’r canllaw ar Ymchwil a Datblygu eich Syniad Busnes (gwefan Busnes Cymru).

Gall dyfeiswyr ieuengach rhwng 4 ac 16 oed ymweld â’r Oriel Syniadau ar wefan www.crackingideas.com i gael ysbrydoliaeth am dy syniad mawr.  Gelli hefyd lawrlwytho pecynnau Gweithgarwch ac Arloesedd i ddysgu mwy am ddyfeisgarwch a chynnyrch arloesol.  Ymuna â’r dyrfa a chymryd rhan yng Nghystadleuaeth Cracking Ideas (gwefan allanol) drwy gynnwys dy ddyfeisiad di.