Becoming a Role Model

By becoming a ‘role model’, you can make a real difference to the lives of young people all across Wales by encouraging them to start their own business and open their minds to new ideas and opportunities that exist.

Our Role Model Network in Wales

Pobl fusnes go iawn yw’r ‘modelau rôl’ sydd â straeon diddorol, llawn ysbrydoliaeth sy’n ennyn dychymyg pobl ifanc ac sy’n cyfathrebu'n ddidwyll am yr hyn sydd tu ôl i fod yn fos arnyn nhw eu hunain. Maen nhw’n rhannu eu brwdfrydedd am greadigrwydd a llwyddiant ac yn helpu pobl ifanc i feddwl yn gadarnhaol am eu dyfodol eu hunain.

Gofynnir i fodelau rôl baratoi Gweithdy Llawn Ysbrydoliaeth y byddan nhw’n ei gyflwyno i bobl ifanc fel arfer rhwng 13 a 24 oed mewn digwyddiadau a dosbarthiadau a drefnir mewn lleoliad addysgol neu gymunedol.  Fel arfer, mae’r gweithdai hyn yn para am tuag awr a byddan nhw’n cynnwys dweud stori a gweithgareddau. Byddan nhw’n cael eu cynnal ar safleoedd ysgolion, colegau a phrifysgolion drwy’r cydlynwyr rhanbarthol.

Darllenwch y proffiliau  i gael blas o’r amrywiaeth eang o berchnogion busnes sy’n aelodau o rwydwaith y Modelau Rôl ar hyn o bryd.

Rydym wedi ymrwymo i helpu i godi ymwybyddiaeth am entrepreneuriaeth, a drwy fod yn rhan o’r rhwydwaith model rôl amrywiol, gallwch hyrwyddo agwedd gadarnhaol “gallu gwneud” a herio canfyddiadau am gychwyn busnes gyda phobl ifanc mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, a hefyd mewn grwpiau cymunedol. Mae hefyd gyfleoedd cyffrous i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau, megis Bŵtcamp i Fusnes,  Dathlu Syniadau Mawr, neu  Cystadleuaeth Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Cynradd - Y Criw Mentrus!

Drwy ddod yn 'fodel rôl', gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc ledled Cymru drwy eu hannog i gychwyn eu busnesau eu hunain ac agor eu meddyliau i syniadau newydd a’r cyfleoedd sy’n bodoli.

Dyma 5 rheswm gwych dros roi cynnig arni:

  • Cewch gyfarfod â pherchnogion busnesau tebyg eraill

  • Byddwch yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc

  • Gallwch herio syniadau a chanfyddiadau ynghylch entrepreneuriaeth

  • Gallwch ysbrydoli pobl ifanc mewn sefydliadau addysgol

  • Gallwch herio’ch hunan drwy wneud cyflwyniadau i gynulleidfaoedd newydd

    Drwy gymryd rhan yn y prosiect a rhoi o’ch amser yn wirfoddol, rydych yn dangos eich ymrwymiad i’r gymuned ac mae hyn yn ysgogi ymgysylltiad rhwng cyflogwyr a’r byd addysg. I gydnabod hyn, telir cyfraniad bach tuag at unrhyw gostau a ysgwyddir gan fodel rôl wrth gymryd rhan yn y prosiect.

Cliciwch yma i weld meini prawf yr hyn sydd ei angen i ymuno â’r rhwydwaith.

Y Broses Ymgeisio

Os byddwch yn bodloni’r meini prawf ac yn dymuno ymgeisio i fod yn fodel rôl, bydd angen ichi lenwi’r Ffurflen Gais sy’n gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich proffil busnes, gan gynnwys eich profiad o fod yn entrepreneur.

Cam 1 – Paratowch nodiadau – rydym yn eich cynghori i baratoi nodiadau i gefnogi eich cais mewn dogfen Word ar wahân cyn lansio’r cais gan nad yw’r ffurflen gais yn caniatáu ichi ‘Cadw’ ar ôl ichi ddechrau. Defnyddiwch y templed Eich Stori / Eich Busnes i baratoi a chadw’ch atebion y gallwch chi wedyn eu copïo a’u gludo i’r ffurflen gais. Cofiwch gadw hwn gan y bydd hefyd yn eich helpu i baratoi ar gyfer yr hyfforddiant sefydlu.

Cam 2 – Adolygu trefniadau – Bydd gofyn ichi gadarnhau eich bod yn cytuno â’r trefniadau a ganlyn drwy gwblhau a chyflwyno eich cais:

  • Telerau ac Amodau Syniadau Mawr Cymru

  • Cytuno â’r Datganiad DDD a deall sut byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon

  • Creu eich proffil ar y dudalen straeon llawn ysbrydoliaeth y model rôl

  • Cod Ymddygiad - i’w gyflwyno yn ystod yr hyfforddiant sefydlu

  • Polisi Preifatrwydd

  • Cytuno i gynnal gwiriadau

  • Cytuno i fynychu hyfforddiant sefydlu

    Os hoffech chi wybod mwy am gyfrifoldebau diogelu Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin am Ddiogelu.

Cam 3 - Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein. 

Disgwylir i fodelau rôl ymrwymo i fynychu hyfforddiant sefydlu a chyflwyno o leiaf 10 sesiwn dros gyfnod o ddwy flynedd.

Cam 1: I ddechrau, bydd gofyn ichi fynychu hyfforddiant sefydlu am un diwrnod a hanner a fydd yn cael ei ddarparu ar ran Llywodraeth Cymru gan ymgynghorydd hyfforddiant a thîm cyflawni Syniadau Mawr Cymru. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno dros gyfnod ar wahân o un diwrnod a hanner, fel arfer wythnos ar wahân mewn lleoliadau ledled Cymru.

Prif amcanion yr hyfforddiant yw:

  • Cwrdd â modelau rôl eraill

  • Deall gweledigaeth a gwerthoedd Gwasanaethau Entrepreneuriaeth Ieuenctid

  • Deall y cynulleidfaoedd a sut i ymgysylltu orau â nhw

  • Datblygu’ch gweithdy a’ch arddull cyflwyno

  • Deall y trefniadau ymarferol ar gyfer cyflwyno eich gweithdy

  • Cael eich ysbrydoli i ysbrydoli eraill! 

Cam 2 - Cysgodi model rôl profiadol. Ar ôl ichi gwblhau’r hyfforddiant, disgwylir ichi gysgodi model rôl profiadol at ddiben hyfforddi ac arsylwi. Trefnir hyn gan eich cyswllt rhanbarthol.

Cam 3 - Mwynhewch! Ar ôl ichi gwblhau’r cyfnod cysgodi, bydd eich cydlynydd rhanbarthol yn trefnu ichi gyflwyno’ch gweithdai ysbrydoledig mewn ysgolion, colegau a phrifysgol fel y bo’n briodol.

Cofrestrwch i ddod yn Fodel Rôl