Bod yn entrepreneuraidd tra’n gweithio

Hyd yn oed os nad ydych eisiau dechrau eich busnes eich hun, neu os nad ydych yn barod i fentro, mae’n bosibl i chi elwa o feddwl fel entrepreneur. Gall hyn eich helpu i lwyddo tra’n gweithio i rywun arall.    

Mae bod yn entrepreneuraidd yn golygu cael agwedd arbennig a meddwl mewn ffordd benodol. Mae entrepreneuriaid yn dda am adnabod posibiliadau a throi heriau bob dydd yn gyfleoedd gwneud arian, a gallwch chi hefyd wneud hyn yn eich swydd chi.        

Yn wir, mae ymchwil yn awgrymu bod dangos nodweddion entrepreneuraidd – fel cael agwedd bositif a bod yn rhagweithiol – yn gallu creu cyfleoedd hyd yn oed os ydych chi’n cael eich cyflogi gan rywun arall.   

Er enghraifft, gallai hyn eich helpu i ennill bonws neu ddyrchafiad yn y gwaith. Neu gallai eich arwain at geisio pethau newydd ac efallai denu mwy o gwsmeriaid. Gallai hefyd wneud busnes eich cyflogwr yn fwy proffidiol. Mae meddwl fel entrepreneur yn gallu agor drysau newydd.

Felly, sut allwch chi fod yn fwy entrepreneuraidd yn y gwaith?   

Agwedd

Bydd agwedd bositif at waith yn eich helpu i gyflawni eich nodau.   

Bydd bod yn barod i fynd ymhellach na’ch swydd ddisgrifiad i helpu rhywun, er enghraifft, neu fod yn flaengar wrth greu ffyrdd gwell o weithio neu ganfod cyfleoedd newydd, yn dangos i gyflogwyr bod gennych gymhelliad da a’ch bod yn greadigol ac uchelgeisiol.  

Mae yna sawl ffordd i ddangos agwedd bositif yn y gwaith, ac mae hynny’n gallu rhoi enw da i chi fel cydweithiwr a chyflogai.

“Credaf mai’r ffordd orau yw mynd amdani a dysgu drwy brofiad.” Pete Cashmore, Prif Weithredwr gwefan cyfryngau digidol Mashable

Creadigrwydd

Nid rhywbeth i ddyfeiswyr a dylunwyr yn unig yw bod yn greadigol. Yn y gwaith, mae creadigrwydd yn gallu golygu pob math o bethau, o fod yn gallu meddwl am syniadau ffres ac adnabod cyfleoedd, i feddwl sut i wneud rhywbeth yn well.

Er mwyn rhoi hwb i’ch creadigrwydd, beth am feddwl sut allech chi ddatrys problemau yn eich swydd? Beth allech chi ei wella, addasu neu newid? A oes unrhyw gyfleoedd y gallech eu harchwilio?   

“Fel entrepreneur, rwy’n ceisio gwthio’r terfynau. Pedal i’r metal.” Travis Kalanick, cyd-sefydlydd rhwydwaith tacsi Uber

Perthnasoedd

Yn y gwaith, byddwch yn treulio llawer o’ch amser yn gweithio gyda phobl eraill, felly mae datblygu perthnasoedd positif yn hanfodol.   

Mae hyn yn golygu gallu cyfathrebu’n dda i gyfleu eich syniadau, ond mae hefyd yn golygu gwrando ar, a gwerthfawrogi syniadau a barn pobl eraill.    

Go brin y byddwch chi bob amser yn cytuno gyda’ch cydweithwyr -  ond sut fyddwch chi’n delio gyda hyn fydd yn gwneud y gwahaniaeth. Gallwch weithiau argyhoeddi eraill mai chi sy’n iawn, ond bydd yn rhaid i chi ar adegau dderbyn bod syniadau bobl eraill yn well. Mae entrepreneuriaid llwyddiannus yn deall hyn.

Creu perthnasoedd gweithio da gydag eraill, bod yn aelod da o dîm a gwybod sut i gael y gorau allan ohonoch chi eich hun ac eraill - dyma’r pethau all fynd â chi ymhell, p’un ai ydych chi’n gweithio i chi eich hun neu i rywun arall.

“Ceisiwch bob amser gyflenwi mwy na’r disgwyl”

Larry Page (cydsefydlydd Google)

Darllenwch fwy am berthnasoedd gyda chwsmeriaid a chyflenwyr

Trefn

Mae entrepreneuriaid llwyddiannus fel rheol yn bobl prysur iawn, gyda llawer o iawn o dasgau angen eu sylw bob dydd. I ymdopi gyda llwyth gwaith o’r fath, mae’n bwysig bod yn drefnus, fel bod pob tasg yn cael ei chwblhau’n brydlon yn nhrefn blaenoriaeth.

Os nad ydych yn cadw trefn, mae’n bosibl na fyddwch yn cwblhau eich llwyth gwaith dyddiol, ac efallai y byddwch yn methu cwblhau tasg bwysig.  Os oes rhaid i chi frysio gan nad ydych wedi neilltuo digon o amser i wneud rhywbeth, mae’n bosibl y bydd ansawdd eich gwaith yn dioddef.  

P’un ai ydych chi’n gweithio i chi eich hun neu i eraill, mae cadw trefn yn gallu eich helpu i sicrhau llwyddiant mawr. 

“Mae canolbwyntio ar un peth a’i wneud yn dda iawn yn gallu mynd â chi yn bell.”  Kevin Systrom, entrepreneur o UDA a chyd-sefydlydd rhwydwaith gymdeithasol Instagram

Parwch eich sgiliau a’ch diddordebau â dros 1400 o deitlau swydd gyda chwis Paru Sgiliau Gyrfa Cymru.

Darllenwch awgrymiadau ar sut i ddod yn fwy hyderus