Carys Owen
Carys Owen
The Business Pod
Trosolwg:
TG, Logisteg, Hyfforddi Gweithredol, Rheoli Pobl
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Ynys Môn

Dechreuodd Carys ei busnes cyntaf 12 mlynedd yn ôl yn Asia. Yn ddiweddar, sefydlodd The Business Pod a MyHRCrew yn M-SParc ar Ynys Môn sy’n cynnig gwasanaethau newid busnes, hyfforddi ac adnoddau dynol. Mae hi hefyd yn rhedeg Capacity2learn Ltd, darparwr cymorth a datrysiadau TG yn Swydd Gaerlŷr. 

Yn flaenorol, treuliodd 3 blynedd yn ailwampio busnes drysau garej y teulu ar Ynys Môn ac roedd yn Gyfarwyddwr Menter Gymdeithasol Llangefni. Mae Carys hefyd yn hyfforddwr canŵio cenedlaethol ac mae’n angerddol dros ddenu teuluoedd i fwynhau canŵio. Enillodd wobr genedlaethol yn ddiweddar am ei gwaith hyfforddi yn y maes yma. Cyn troi at fod yn entrepreneur, cafodd yrfa ryngwladol ym maes Technoleg Gwybodaeth ac Adnoddau Dynol mewn nifer o gwmnïau rhyngwladol. Mae Carys yn siaradwr Cymraeg ac mae’n hapus i drafod busnes yn ddwyieithog.

Meysydd arbenigedd: TG, Logisteg, Hyfforddi Gweithredol, Rheoli Pobl

Mae'n syml iawn gyda Carys, mae hi jyst yn sicrhau fod pethau yn cael eu cyflawni. Ei hagwedd at weithio mewn busnes ydy 'pam ddim? ' bob amser, a bydd yn eich helpu i ryddhau potensial nad oeddech hyd yn oed yn gwybod fod o ganddo’ch chi! Mae hi'n mynd i'r afael â phob her gyda gyriant ac egni ac yn tynnu syniadau ac ysbrydoliaeth o bob math o feysydd a diwylliannau. Bydd hi'n eich herio, yn gweithio gyda chi ar yr ateb ac yn eich herio eto. Mae Carys yn gweithio trwy ddod i'ch adnabod chi, sut rydych chi'n meddwl, beth sy'n eich gyrru a ble mae eich mannau gwan a ble rydych mewn peryg o syrthio i lawr. Yna, bydd yn defnyddio dull sydd wedi ei bersonoli i chi ac yn eich helpu i gynyddu cryfderau a lleihau eich gwendidau. I atgyfnerthu hyn i gyd, mae hi wedi ei wneud o dros ei hun mewn byd busnes. Mae hi'n wraig fusnes ryngwladol brofiadol iawn gydag arbenigedd ar draws, gweithrediadau, logisteg a rheoli pobl. Mae hi'n ymarferol ac yn arloesol. Mae hi’n gymwys iawn yn y gweithdrefnau angenrheidiol ond mae yn angerddol iawn ar yr un pryd. Dydy hi’n sicr ddim yn delio mewn jargon byd busnes ond mae hi'n bresenoldeb cryf a chadarnhaol ar y lefelau corfforaethol uchaf.

 

Yn anad dim, mae'n credu yng ngrym pobl a bydd yn mynd â chi i lle yr ydych eisiau mynd.

Mae Carys yn wraig fusnes brofiadol sydd wedi gweithio ar draws sectorau amrywiol, o addysg ac ysgolion i chwarela a chloddio. Llwyddodd i newid diwylliant mewn busnesau mawr ac helpu i sbarduno prosiectau isadeiledd eang ond mae hefyd wedi hyfforddi a mentora cwmnïau bach lleol a'u helpu i wella eu perfformiad a datblygu eu potensial. Un o'i phrif lwyddiannau yw cynorthwyo elusen leol drwy raglen ehangu a'i helpu i osod gorwelion ac uchelgeisiau newydd. Mae gan Carys record gryf o wneud gwahaniaeth i unigolion ac mae’n ymarferydd NLP cymwysedig. Mae rhai o'i llwyddiannau amlycaf wedi dod drwy hyfforddi unigolion a'u helpu drwy sefyllfaoedd heriol neu fod yno ochr yn ochr â nhw tra'n troi eu busnes o freuddwyd i wirionedd. Mae Carys wedi gweithio ar draws Ewrop a'r Dwyrain Canol ac wedi llwyddo mewn gwahanol ddiwylliannau ac ar draws ffiniau rhyngwladol. Mae hi bellach wedi dychwelyd adref i Ynys Môn lle mae ganddi ddylanwad amlwg drwy gynorthwyo busnesau lleol i sbarduno eu huchelgais a helpu enwau mwy adnabyddus i adnewyddu eu strategaethau ar gyfer heriau busnes newydd.