Categorïau Cystadleuaeth

Gwobrau Sgiliau Busnes Gorau

  • 6ed Dosbarth Ysgolion
  • Addysg Bellach

  • Addysg Uwch

  • Tu Allan i Addysg

Bydd y Gwobrau hyn yn cydnabod y ceisiadau sy’n cyflawni’r canlyniadau gorau yn y meysydd canlynol:

1. Model Busnes

Bydd y beirniaid yn edrych ar:

  • Cysyniad –y syniad neu’r angen

  • Cwsmeriaid – maint y farchnad, pwy a sut i gyrraedd eich cwsmeriaid

  • Cystadleuwyr – pwy ydyn nhw, beth maen nhw’n ei wneud yn dda a pham bydd cwsmeriaid yn eich dewis chi yn hytrach na nhw?

  • Cydnawsedd – angerdd, cydnerthedd, cyfathrebu, cynllunio a rhwydwaith cymorth.

  • Arian – Ffynonellau arian/cyllid mae eu hangen i gychwyn. 

2. Cynnig

Yn y digwyddiad Arddangos bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd olaf yn cyflwyno cynnig 2 funud i banel o feirniaid.  Y Cynnig ydy’ch cyfle chi i werthu’ch busnes neu brosiect menter mewn crynodeb byr, bachog.

3. Cyfweliad

Yn y digwyddiad Arddangos byddwch yn cael eich cyfweld gan nifer o feirniaid wrth eich stondin arddangos.  Nod y cyfweliad yw sefydlu’ch gwybodaeth o’r fenter busnes, pa sgiliau rydych chi wedi eu datblygu ac os ydych chi’n gweithio mewn tîm, pa mor dda rydych chi wedi gweithio gyda’ch gilydd.

4. Arddangosiad

Y cais sydd â’r stondin arddangos mwyaf trawiadol ac apelgar sydd eisiau yma.  Bydd y beirniaid yn chwilio am arddangosiadau sy’n sefyll allan ac yn creu argraff gyffredinol ardderchog o’ch busnes. Mae pob croeso i chi fod mor greadigol ag y dymunwch a gwneud defnydd o gyflwyniadau electronig, fideo a rhyngweithio i ymgysylltu ag ymwelwyr â’ch stondin.

Gwobr Effaith Amgylcheddol

Oes gennych chi syniad neu a fuoch chi’n rhan o Weithgaredd Menter sy’n lleihau neu’n datrys problem amgylcheddol?

Os felly dyma gategori i chi! Mae’r wobr hon yn ymwneud â chydnabod yr effaith amgylcheddol mae’ch gweithgaredd neu syniad yn mynd i’w gwneud neu wedi’i gwneud.

Gwobr Effaith Gymdeithasol

Ydych chi wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd sydd wedi codi arian dros eich cymuned leol? Ydych chi wedi nodi problem gymdeithasol ac yn meddu ar yr ateb? Oes gan eich busnes, syniad neu weithgaredd effaith gymdeithasol neu ydy’n ymdrin â phroblem gymdeithasol? Mae’r wobr hon yn mynd i’r cais sy’n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned fyd-eang rydym i gyd yn byw ynddi. 

Gwobr Creadigedd ac Arloesedd

Mae’r categori hwn yn ymwneud â chreadigedd ac arloesedd ar draws eich menter busnes cyfan, nid dim ond y cynnyrch neu’r gwasanaeth ei hun. 

Rydym ni’n chwilio am ymagweddau arloesol eithriadol at nodi’ch syniad busnes, pa mor arloesol mae’ch cynnyrch neu wasanaeth, defnydd creadigol ac arloesol ar dechnoleg ddigidol a sut rydych chi wedi marchnata a gwerthu’ch cynnyrch neu wasanaeth.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n amlygu’ch cryfderau ym meysydd:

  • Datrys problemau

  • Meddwl dargyfeiriol / creu syniadau

  • Adnabod a chreu cyfleoedd

  • Trosi syniadau’n gamau gweithredu

Gwobr Ysbryd Tîm

Caiff y categori hwn ei ddyfarnu i’r tîm sy’n dangos brwdfrydedd ac ysbryd aruthrol drwy waith partner a gwaith tîm eithriadol wrth ddatblygu a chyflwyno eu menter fusnes.

Gwobr Entrepreneur /Unigolyn y Dyfodol

Ydy eich breuddwydion yn uchelgeisiol? Oes gennych chi awydd i fod entrepreneur pennaf nesaf Cymru?  Caiff enillydd y wobr hon ei ddethol o blith yr HOLL geisiadau unigol sy’n dod i law sy’n arddangos dawn a galluoedd Entrepreneur Dyfodol Cymru y flwyddyn.

Gwobr Entrepreneur 10%

Mae llawer o bobl yn methu ymrwymo 100% o’u hamser i gychwyn neu dyfu eu busnes. Deallwn ei bod yn gallu bod yn her rhedeg menter ar yr un pryd â bod mewn gwaith neu addysg amser llawn. Mae’r wobr hon yn cydnabod yr entrepreneuriaid hynny sy’n dymuno darganfod cyfleoedd newydd drwy fireinio a datblygu eu sgiliau mewn addysg neu hyfforddiant amser llawn, wrth gynhyrchu incwm ychwanegol drwy eu busnes yn eu hamser sbâr.

YMGEISIWCH YN AWR!