Cwestiynau Cyffredin
Pwy yw’r Criw Mentrus
Mae’r Criw Mentrus yn seiliedig ar fodel entrepreneuriaeth ACPT, sef pedair nodwedd allweddol ymagwedd entrepreneuraidd:
Agwedd
Creadigrwydd
Perthnasoedd
Trefniadaeth
Oes rhaid i ni addysgu gweithgareddau'r gystadleuaeth?
Mae’r gystadleuaeth wedi’i strwythuro i roi hyblygrwydd i chi o ran sut i gynnal gweithgaredd eich ysgol. Gellir cynnal y gweithgaredd gyda dosbarthiadau unigol, ar draws grŵp blwyddyn gyfan, gyda grwpiau bach o ddisgyblion, fel diwrnod amserlen wedi’i ohirio, wedi’i ymgorffori mewn gwersi neu gyfuniad o’r dulliau hyn – chi sydd i benderfynu.
A oes thema i'r gystadleuaeth?
Nid oes thema benodol i’r gystadleuaeth. Credwn y byddai hyn yn cyfyngu ar gyfleoedd dysgu. Mae gennych hyblygrwydd llwyr i gynllunio, cyflawni ac arddangos eich gweithgaredd entrepreneuraidd cyffrous eich hun.
Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithgareddau menter sy’n cwmpasu meini prawf y prif wobrau – Gwobr ECO/Cynaliadwyedd, Gwobr Creadigrwydd/Arloesedd a Gwobr Effaith Gymdeithasol/Cymunedol; mae hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i ddisgyblion fabwysiadu dull ymholgar, datrys problemau at ddysgu entrepreneuraidd, yn cynnwys profiadau menter ‘bywyd go iawn’ uniongyrchol sy’n gofyn am fasnachu ymarferol e.e. dylunio, cynhyrchu a gwerthu cynnyrch neu wasanaeth.
Pwy all ein helpu?
Mae llawer o ysgolion cynradd eisoes yn ymgysylltu’n llwyddiannus â’u cymuned fusnes lleol wrth ymgymryd â’u gweithgareddau menter. Gall cefnogaeth ar gyfer eich gweithgareddau cystadleuaeth menter gael ei ddarparu gan ystod eang o bartneriaid sy'n cynnwys:
- Cyflogwyr; mae cynnwys cyflogwyr yn hanfodol i ddod â byd gwaith yn fyw a helpu’r plant i ddeall sut mae eu gweithgareddau menter yn yr ysgol yn berthnasol i'r gweithle.
- Modelau rôl Syniadau Mawr Cymru
- Cyn-fyfyrwyr ysgol
- Sefydliadau cymunedol
- Llywodraethwyr
- Rhieni/gofalwyr
- Coleg AB
Pryd ddylem gynnal ein gweithgaredd menter?
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais eich ysgol yw 4pm ar 16 Mehefin 2025 ac mae’n ofynnol bod eich menter wedi bod yn weithredol ar unrhyw adeg rhwng 1 Ionawr 2024 a’r dyddiad cau.
A oes angen i ni dalu ffi i gymryd rhan?
Na, mae'r gystadleuaeth yn rhad ac am ddim.
Pa ystod oedran o blant all gymryd rhan?
Er mwyn cynnwys cymaint o blant â phosibl mewn gweithgaredd entrepreneuraidd, bydd y gystadleuaeth yn agored i ddisgyblion 5-11 oed o unrhyw ysgol gynradd yng Nghymru.
A gyfyngir ar y nifer o geisiadau o bob ysgol?
Nid oes cyfyngiad ar nifer y ceisiadau y gall pob ysgol eu cyflwyno i'r gystadleuaeth.
Beth yw uchafswm nifer o ddisgyblion all gymryd rhan?
Nid oes cyfyngiad ar y nifer o blant all gymryd rhan ym mhob cais. Fodd bynnag, os dewisir ysgol i fod ar y rhestr fer i dderbyn cyfweliad ar-lein gyda’r beirniaid, yna dim ond 4 plentyn gaiff gymryd rhan i amlinellu eu prosiect ac ateb cwestiynau.
Beth yw strwythur y gystadleuaeth?
Yn dilyn y dyddiad cau ar 16 Mehefin 2025, beirniadir yr holl gynigion gan dîm y Criw Mentrus fydd yn darparu rhestr fer o hyd at 18 o geisiadau i fynd ymlaen i'r cam cyfweld ar-lein.
Anfonir manylion y cyfweliadau ar-lein gyda’r panel o feirniaid entrepreneuraidd at yr ysgolion ar y rhestr fer erbyn 25 Mehefin 2025. Cynhelir y cyfweliadau ar-lein rhwng 1 ac 8 Gorffennaf 2025. Darperir manylion ynglŷn â mynediad at y cyfweliadau ynghyd â chymorth technegol gan dîm y Criw Mentrus os bydd angen.
Hysbysir yr enillwyr trwy e-bost ar 11 Gorffennaf 2025.
A allwn gyflwyno cais ar gyfer mwy nag un categori?
Gallwch ymgeisio mewn cymaint o gategorïau ag y dymunwch.
Beth sydd angen ei gyflwyno fel cais ein hysgol?
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar-lein ar ffurflen gofrestru cystadleuaeth Criw Mentrus.
Mae'r ffurflen gais yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am eich menter ysgol. Gellir lawr lwytho dogfen Word o’r ffurflen ar y wefan fel y gallwch baratoi eich atebion cyn dechrau cwblhau’r ffurflen ar-lein. Bwriedir y ffurflen hon ar gyfer gwybodaeth yn unig. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth rhaid i chi gwblhau’r ffurflen ar-lein yma
Ffurflen Gais Y Criw Mentrus - 2024-25.docx
[.DOCX, 42.38 KB]
Gallwch hefyd uwchlwytho tystiolaeth ategol ychwanegol ar gyfer eich cais yn y fformatau canlynol:
Hyd at 4 delwedd un tudalen: (math o ffeiliau JPEG, PNG, PDF) uchafswm maint ffeil 2MB fesul delwedd
Ffeil Fideo (uchafswm hyd 2 funud/ / 50MB),
Cyflwyniad Powerpoint (uchafswm 15 sleid / 50MB); neu
Dogfen Word neu PDF (uchafswm 15 tudalen / 50MB)
A gynhelir unrhyw ddigwyddiadau Y Criw Mentrus yn 2025?
Ni chynhelir unrhyw ddigwyddiadau wyneb yn wyneb nac ar-lein yn 2025.
Pwy fydd yn beirniadu ceisiadau ein hysgol?
Bydd tîm rheoli'r Criw Mentrus yn llunio rhestr fer gychwynnol o geisiadau'r gystadleuaeth.
Beirniadir y ceisiadau ar y rhestr fer gan banel o dri Model Rôl entrepreneuraidd dwyieithog Syniadau Mawr Cymru fydd yn cynnal y cyfweliadau ar-lein gyda phob ysgol.
Ble gallaf ddod o hyd i'r meini prawf beirniadu?
Gellir gweld y meini prawf beirniadu ar gyfer pob un o’r 3 chategori ar wefan y Criw Mentrus trwy ddilyn y ddolen hon:
https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy/meini-prawf-beirniadu
Sut bydd ysgolion yn cael eu gwobrwyo am gymryd rhan yn y gystadleuaeth?
Rhoddir £2500 i enillwyr pob un o’r categorïau canlynol:
- Gwobr ECO/Cynaliadwyedd
- Gwobr Creadigrwydd/Arloesedd
- Gwobr Effaith Cymdeithasol/Cymunedol
Gofynnir i enillwyr y tri phrif gategori fuddsoddi eu harian gwobr mewn adnoddau cwricwlwm/menter, deunyddiau neu brofiadau. Bydd gofyn iddynt hefyd ymrwymo i gwblhau astudiaeth achos ar ôl y gystadleuaeth sy’n arddangos sut y bu iddynt fuddsoddi eu harian a’r effaith a gafodd ar y dysgwyr.
Yn ogystal, dyfernir £100 i'r ysgolion hynny sydd ar y rhestr fer ond nad ydynt yn ennill un o brif wobrau'r categori
A oes modd i ysgol ennill mwy nag un o’r gwobrau ariannol e.e. yr un ysgol yn ennill y Wobr am y busnes Creadigol, a’r busnes ECO gorau?
Na, dim ond un o'r prif wobrau categori £2500 y gall ysgolion ei hennill