Cychwyn Busnes yn Rhan-amser

Mae’n gam mawr cychwyn dy fusnes dy hun, ond nid oes rhaid i ti neidio yn syth i mewn iddo yn llawn amser. 

Os wyt ti dal mewn addysg, os oes gen ti blant ifanc neu eisiau sicrhau y bydd dy syniad busnes yn gweithio, efallai y byddai’n well i ti gychwyn busnes ar sail rhan-amser i ddechrau.

I gael gwybod mwy darllenwch y canllaw Busnes Cymru  Gychwyn Busnes Rhan Amser

  • Gelli barhau mewn gwaith cyflogedig â diogelwch incwm rheolaidd nes bod y busnes yn weithredol

  • Gelli ddefnyddio sgiliau rwyt ti wedi’u dysgu yn gweithio i gyflogwr i ddechrau, a datblygu dy fusnes dy hun

  • Mae’n ffordd o gael incwm os oes gen ti ymrwymiadau fel gofalu am ddibynyddion

  • Gelli brofi os oes marchnad ar gyfer dy gynnyrch neu wasanaeth

  • Os oes gen ti hobi y byddet yn treulio amser arno pryn bynnag, byddet yn gallu gwneud arian o dy ddiddordebau

  • ·         Dod o hyd i’r amser i redeg y busnes – gall gymryd mwy o amser nag y byddet yn dybio

  • ·         Gallai fod yn anodd canolbwyntio ar dy waith cyflogedig, yn enwedig os oes problem yn y busnes

  • ·         Efallai y bydd angen mwy o amser i’r busnes newydd ddatblygu a dod yn hyfyw