Ysgolion Uwchradd
Gweithdai Archwilio Syniadau Mawr
Mae Gweithdai Archwilio Syniadau Mawr yn cael eu cynnal yn rheolaidd ledled Cymru ar maent ar gael i bawb sydd rhwng 14 ac 18 oed sydd â diddordeb mewn cychwyn eu busnes eu hunain.
Sesiynau yn seiliedig ar weithgareddau ydyn nhw a gynlluniwyd i dy annog i ganfod y sgiliau sydd eu hangen arnat i ddod yn entrepreneur llwyddiannus a chanllawiau ar sut i oresgyn heriau ar hyd y ffordd. Byddi’n gadael gyda syniad clir o ba gamau sy’n rhaid i ti eu cymryd er mwyn cyflawni dy freuddwyd.
Dyma’r manteision a ragwelir:
- Datblygu dy hyder drwy gydnabod y rhinweddau entrepreneuraidd sydd gennyt eisoes, ac unrhyw nodweddion ychwanegol sydd eu hangen.
- Cyfle i rannu syniadau a heriau gydag unigolion entrepreneuraidd o’r un meddylfryd â thi.
- Holi entrepreneur, dysgu o'u profiadau, a chael cyngor o ansawdd gan rhywun sydd wedi bod yn y sefyllfa honno ac wedi llwyddo.
- Dysgu a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn fentrwr llwyddiannus fel cynllunio busnes, rhwydweithio a chyfathrebu busnes effeithiol.
- Cael canllawiau ar y camau nesaf, gan gynnwys sgiliau i weithio arnynt a gyda phwy ddylet ti gysylltu am help a chefnogaeth yn y dyfodol.
Athrawon - E-bostiwch ni yn enquiries@bigideaswales.com neu siaradwch â'ch gweithrediaeth ranbarthol
Myfyrwyr - Cofrestrwch yma am help gyda'ch syniadau
Her Deg Punt
Sut mae hyn yn gweithio?
Beth fyse ti yn ei wneud hefo £10?
Her Degpunt yw her genedlaethol AM DDIM Menter yr Ifanc ar gyfer ysgolion uwchradd.
Mae’r gystadleuaeth ar agor i bawb yn y DU rhwng 11 ac 19 oed, cofrestrwch heddiw i fod yn rhan ohono.
Mae’r her Degpunt yn rhoi cyfle i fyfyrwyr lunio syniad am gynnyrch neu gwasanaeth y gallant ei werthu, a chael profiad ymarferol o sut beth yw bod yn entrepreneur.
Bydd myfyrwyr yn cael gyfalaf o £10 i sefydlu busnes naill ai ar ben ei hunain neu mewn grŵp a byddant yn cael eu annog i gael effaith gymdeithasol a chymaint o elw ag sy’n bosib o fewn 4 wythnos.
Bydd y cyfranogwyr mewn reolaeth llwyr o unrhyw elw a wneir ac yn penderfynu ar beth i’w wario.
Pam cymryd rhan mewn her Degpunt?