Ein Tîm
Mae tîm o staff ymroddedig yn darparu’r gwaith o gydlynu a pharatoi ar gyfer ymweliadau modelau rôl mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Byddant yn:
- Cysylltu â'r athro/athrawes neu'r tiwtor i gytuno ar ddyddiadau ac amseroedd; deall mwy am y gynulleidfa a'r digwyddiad
- Cwblhau'r archeb drwy gadarnhau’r trefniadau ac unrhyw ofynion gyda'r ddwy ochr.
- Cysylltu â'r rhwydwaith o fodelau rôl i gael y model rôl cywir ar gyfer y partner
- Mynychu’r digwyddiad neu roi ffurflenni adborth er mwyn sicrhau bod yr ymweliad yn un llwyddiannus!
Mae gennym Pencampwyr Entrepreneuriaeth ym mhob coleg a phrifysgol yng Nghymru. Gallwch ddarganfod pwy yw eich Pencampwr Entrepreneuriaeth yma.