Sut y gall Syniadau Mawr Cymru eich helpu i weithio gyda phobl ifanc

 

Stakeholder Cymraeg

Beth yw Syniadau Mawr Cymru? 

Nod Syniadau Mawr Cymru yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru ac annog pobl ifanc dan 25 oed i ddatblygu sgiliau menter beth bynnag eu dewis o ran gyrfa. 

Mae Gwasanaethau Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn menter a chael cefnogaeth i gychwyn busnes.

Lawrlwythwch ein taflen ddwyieithog Trosolwg o Wasanaethau

 

 

Cystadleuaeth Genedlaethol Ysgolion Cynradd y Criw Mentrus

Enterprise Troopers FiguresMae’r gystadleuaeth flynyddol yma i ysgolion cynradd yn meithrin ysbryd entrepreneuriaeth ymhlith ein dysgwyr ifanc ledled y wlad.

Mae’r Criw Mentrus yn arddangos cyflawniadau busnes ein plant ysgol gynradd, yn llwyfan i rannu eu gweithgareddau menter ac yn dangos cysylltiadau â’u cymuned fusnes leol. Ar sail model sgiliau ACPT (Agwedd, Creadigedd, Perthnasau a Threfniadaeth), mae’r Criw Mentrus yn darparu deunyddiau dysgu i helpu i ddarparu menter yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu sgiliau fel gwaith tîm a chreadigedd, wrth alluogi disgyblion i gymhwyso eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol mewn modd ymarferol. Trwy gystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol, mae disgyblion yn rhannu gwersi a chymhelliant dros eu busnes.

Cysylltwch â ni

O fewn ysgolion, mae ein Modelau Rôl yn cyflwynoGweithdai Ysbrydoli’ i ddisgyblion o Flwyddyn 9 – Flwyddyn 11 sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn rhoi blas i bobl ifanc o beth mae’n ei gymryd i fod yn entrepreneur llwyddiannus. Mewn grwpiau ystafell ddosbarth am awr (neu am hyd y dosbarth) mae’r gweithdai apelgar hyn yn galluogi disgyblion i feddwl yn greadigol am eu dyfodol a’u syniadau busnes nhw.

Trefnwch sesiwn nawr gyda’ch Cydlynydd Rhanbarthol

 

Chris Walker - Marketing Workshop
Role Model Session at Trinity St David

 

ICE Workshop

I bobl ifanc 16-24 oed, sydd yn yr ysgol, coleg, prifysgol neu gyda grwpiau ieuenctid a chymunedol, dymunwn adeiladu ar eu dyheadau o ran menter a chyflwyno gweithdy ‘Archwilio Syniadau Mawr’. Mae’r gweithdy hwn (sydd fel arfer yn para awr neu ddwy) yn cynnig mwy o wersi o brofiad i fagu hyder, rhannu eu syniadau ag entrepreneuriaid a deall mwy am ystyriaethau ymarferol dechrau busnes. Mae’r sesiwn yn helpu’r cyfranogwyr i eneradu syniadau am fusnes a chreu cynllun gweithredu i symud eu syniad yn ei flaen.

Gallwn ni deilwra’r gweithdai modelau rôl a chefnogi digwyddiadau partneriaid i weddu i anghenion y cyfranogwyr, boed cefnogi meysydd y cwricwlwm fel Bagloriaeth Cymru neu ddarparu model rôl o sector penodol i adeiladu hyder ar thema fusnes arbennig.

Trefnwch sesiwn nawr gyda’ch Cydlynydd Rhanbarthol

 

Digwyddiadau wedi’u Teilwra

Drwy weithio gyda phartneriaid, gallwn ni deilwra a datblygu digwyddiadau a chymorth busnes o amgylch anghenion a rhaglenni busnes presennol cleientiaid.

Cysylltwch â ni

Business Adviser

I’r sawl sydd o ddifrif am ddechrau, rydyn ni’n cynnal pecyn cymorth chwech awr sy’n cynnwys cefnogaeth unigol a gweithdai gan gynghorwyr busnes proffesiynol, mentora gan entrepreneuriaid ac ystod o adnoddau ar-lein. Mae cyynghorwyr busnes yn gallu gweithio gyda phobl ifanc rhywle anffurfiol fel caffi neu yn eu coleg neu brifysgol.

  • Byddwn yn cydategu gwaith Hyrwyddwyr Menter ym mhob coleg a phrifysgol yng Nghymru sy’n helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u harwyddbostio at unrhyw gefnogaeth sydd ar gael.
  • Cefnogwn bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant a’r sawl sydd mewn hyfforddiant sy’n dymuno edrych ar hunan-gyflogaeth a dechrau busnes

Cysylltwch â ni

 

Bootcamp 2017 collage

Yn uchafbwynt y gefnogaeth, mae hyn yn adnabod pobl 18-25 oed sydd â’r ddawn, y cymhelliant a’r ymrwymiad i gyflymu hynt eu busnes tuag at lwyddiant.

Mae ar agor i unigolion cryf eu cymhelliant sydd, os ydyn nhw’n bodloni’r meini prawf, yn cael eu gwahodd i fynychu penwythnos Bŵtcamp preswyl sy’n cae eu cynnal dwywaith y flwyddyn. Yn y Bŵtcamp byddwn ni’n cefnogi pob agwedd ar fodel busnes a magu hyder pobl ifanc mewn marchnata, cyllid a chynllunio busnes. Mae’n gyfle unigryw lle mae pobl ifanc yn gallu cwrdd ag entrepreneuriaid a gweithio gyda’n cynghorwyr busnes i lunio cynllun gweithredu i symud eu busnes yn ei flaen. Yn dilyn y Bŵtcamp, bydd cefnogaeth yn parhau i’r cyfranogwyr drwy gyfrwng Cynghorwyr, Modelau Rôl ac entrepreneuriaid eraill fel y bo’n briodol i’r person ifanc.

Cysylltwch â ni

 

Mae tîm o staff ymroddedig yn cyd-drefnu ac yn paratoi am ymweliadau modelau rôl ag ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Mae 'Syniadau Mawr Cymru' yn rhan o Fusnes Cymru.

Mae Busnes Cymru yn cefnogi entrepreneuriaeth trwy bolisïau a rhaglenni sydd â'r nod o annog creu, twf a datblygu cynaliadwy microfusnesau a mentrau bach eu maint. Nod Busnes Cymru yw:

  • Codi dyhead a gweithgaredd entrepreneuriaid yng Nghymru gan arwain at gynnydd mewn hunangyflogaeth a chyfradd genedigaeth busnes
  • Gwella cystadleuydd, goroesiad a chynhyrchedd microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru gan arwain at dwf cynaliadwy a swyddi o ansawdd da.
  • Sicrhewch fod cefnogaeth yn hawdd ei gweld, yn syml i'w defnyddio ac wedi'i chysylltu'n dda â'r sector preifat ac offerynnau polisi eraill. #CreuSbarc

Gallwch ddarllen mwy am gefnogaeth Busnes Cymru yma