Her Clwb Ffermwyr Ifanc

Rhaglen Fenter Wledig CFfI Cymru

Mae partneriaeth newydd wedi cael ei sefydlu rhwng CFfI Cymru a Syniadau Mawr Cymru, gan arwain at ddatblygu rhaglen fusnes newydd. Lansiwyd Rhaglen Menter Wledig CFfI Cymru yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol CFfI Cymru.

Yn debyg i wobr busnes y flwyddyn flaenorol, mae aelodau CFfI Cymru ac aelodau cysylltiol hyd at 30 oed yn medru arddangos eu sgiliau busnes gyda gwobr busnes y flwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd y 13eg o Dachwedd gyda cyfweliadau i’w ddilyn ar yr 20fed o Dachwedd. Cyhoeddir yr enillwyr a’r gwobrau yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2017.

Yn ogystal â'r wobr, mae'r rhaglen yn cynnig cefnogaeth i aelodau gyda; gweithdai i ddatblygu sgiliau busnes allweddol, cyfle i ddatblygu sgiliau busnes mewn bŵt camp busnes, sesiynau un i un gyda chynghorwyr Syniadau Mawr Cymru a'r gallu i rwydweithio ag entrepreneuriaid ifanc a Modelau Rôl busnes i ddysgu beth mae'n ei olygu i redeg busnes, oll wedi eu darparu gan Syniadau Mawr Cymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch a elin.williams@yfc-wales.org.uk neu ffoniwch y swyddfa ar 01982 553502.

*Er bod y dyddiad olaf am ceisiao wedi cau, ti'n gallu cadw i fyny gyda'r CFfI gan eu dilyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol: TwitterFacebook ac Instagram. Gallwch hefyd edrych ar y Map_Llwybrau Syniadau Mawr Cymru os oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy amdano ddechrau busnes*

PDF icon

 

Ennillydd y wobr yn 2016 oedd Frances Jones o CFfI Llanbadarn Fynydd

 

COGYDD CFFI CYMRU YN ENNILL GWOBR BUSNES Y FLWYDDYN

YFC Competition

 

Unwaith eto mae CFfI Cymru yn falch i weithio ochr yn ochr gyda NatWest i edrych am aelodau ifanc busnes i gystadlu yn gystadleuaeth Busnes y Flwyddyn NatWest. Enillydd y gystadleuaeth eleni ydy Frances Jonse, aelod o CFfI Presteigne ym Maesyfed.

Mae gan Frances busnes ‘Frances Jones Catering’ a hi sydd yn rhedeg y busnes o ddiwrnod i ddiwrnod. Bydd Frances yn cael ei chyflwyno gyda gwobr o £1000 yn niwrnod cyntaf Ffair Aeaf Brenhinol Cymru.

Nid yn unig gwobrwyo pobl ifanc yw pwrpas y wobr yma ond hefyd i gynnig gwasanaeth mentora sydd yn cael ei rhoi yn garedig gan NatWest. Bydd y mentora yma yn cynnwys marchnata, cynllunio busnes a chyngor cyllideb er mwyn cefnogi pobl ifanc.

Y panel o feirniaid am eleni oedd Mr Andrew Woodthorpe, Cyfarwyddwr Namcio Gwledig NatWest, Mr Steve Maggs o Fusnes Cymru a Tom Bevan cyn enillydd y wobr. Nodwyd gan y panel ei fod wedi cael ei phlesio’n fawr gan y safon o ymgeiswyr ac yn edmygu brwdfrydedd aelodau CFfI Cymru.

Mae Frances wedi tyfu ei busnes dros y pedwar blwyddyn ddiwethaf ac yn gobeithio tyfu ei busnes bellach trwy arallgyfeirio sgubor er mwyn paratoi ei gwaith o ddydd i ddydd yna. Defnyddio cynnyrch lleol ydy un o uchafbwyntiau Frances ac yn mwynhau creu bwyd o’r safon uchaf ar gyfer amryw o ddigwyddiadau.

Wedi derbyn y newyddion yma dywed Frances;
“Dwi methu credo fy mod wedi ennill y wobr yma, fe fyddai yn cymryd pob mantais o’r gefnogaeth bydd gan Natwest ei gynnig ac yn defnyddio’r arian i ddatblygu fy ngwasanaeth i’n cwsmeriaid.”

Yn siarad ar rhan y panel o feirniaid, dywed Mr Andrew Woodthorpe;
“Rydym wedi plesio gan Frances gan ei fod mor angerddol tuag at dyfu’r busnes yn fwy. Mae wedi gweithio’n galed i gyrraedd y man yma ac edrychwn ymlaen at weld ‘Frances Jones Catering’ yn y dyfodol.

Yn siarad ar ran CFfI Cymru, dywedodd Morys Ioan;
“Rydym yn falch iawn gyda’r nifer o ymgeiswyr yr oedd eleni a’i safon. Mae Frances yn llawn haeddiannol o’r wobr yma a fydd yn llysgennad ardderchog ar gyfer diwydiant Bwydydd a Diodydd Cymreig. Hoffai CFfI Cymru ddiolch yn fawr I NatWest am ei ymrwymiad a’i gefnogaeth ar gyfer pobl ifanc y wlad.”