Llongyfarchiadau i’n henillydd, Sophie Plumley o Ysgol Gyfun Garth Olwg! Yn 14 oed, mae ei busnes ‘Run with Us – Rhedwch gyda Ni’ (Clwb Rhedeg Merched Ifanc Llanilltud) wedi creu argraff ar y beirniaid. Wrth egluro’i syniad dywedodd Sophie ‘ Rydw i eisiau i enethod ifanc fel fi gael lle i fynd pan fyddan nhw wedi cael diwrnod anodd yn yr ysgol neu gartre’ sydd â ffocws ar iechyd, lles a chyfeillgarwch. Mae RHEDWCH GYDA NI yn cael ei redeg gan enethod yn eu harddegau ar gyfer genethod yn eu harddegau’.
Sylwadau’r beirniaid:
Elin Evans - Elin Angharad
"Grêt gweld dy fod wedi troi rhywbeth negyddol yn rywbeth mor bositif a gwych, sydd wedi dylanwadu ar lot o bobl dwi’n siwr. Ardderchog wir, dalia ati!"
Ioan Inge – Akron Productions
"Syniad gwirioneddol ffantastig! Rwyt wedi rhoi llawer o ymdrech i achos ysbrydoledig ac rwyt wedi cynllunio at y dyfodol i wneud yn siwr fod y busnes yn tyfu a datblygu."
Josef Roberts – Pai Language Learning
"Ôl meddwl a chynllunio clir i’r busnes, graffeg ffantastig, llawn argyhoeddiad."
Yr elusen mae Sophie wedi’i ddewis i dderbyn £100 yw: My Discombobulated Brain - Medical Health Charity (Charity no 1189039).
Llongyfarchiadau hefyd i’r canlynol sydd wedi derbyn canmoliaeth arbennig am eu syniadau busnes gan ein beirniaid:
- Dylan Allman – 13 oed – Monmouth School for Boys – OneWorld Computing – Mae Dylan yn adnewyddu hen gyfrifiaduron, ac mae cynaliadwyedd amgylcheddol a harneisio pŵer cyfrifiaduron er lles yn ganolog i’r hyn mae’n ei wneud.
- Elin Carter - 13 oed – Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern – Peiriant Glanhau’r Môr - Syniad Elin yw datblygu peiriant glanhau’r môr pydradwy er mwyn helpu i waredu’r llygredd a’r sbwriel ofnadwy sydd yn y môr.
- Thio, Tolis and Thanasis Walters – 11, 9 a 7 oed – Ysgol Tanycastell – Blodau Brysur - Syniad y brodyr yw gwerthu jariau mêl bach sy'n cynnwys hadau blodau gwyllt i'w plannu, a fydd yn darparu paill a neithdar i wenyn a phryfed a helpu atal y gostyngiad yn eu niferoedd.
- Cara Enlli Pughe – 9 oed – Ysgol Glantwymyn – Blodau - Roedd Cara eisiau gwneud defnydd o’r gwasgwr blodau a gafodd gan yr ysgol. Mae wrth ei bodd yn casglu blodau gwyllt, eu sychu, creu delweddau amrywiol a’u fframio, ac yna eu gwerthu i gwsmeriaid hapus.
- Martha Lewis – 10 oed – Ysgol T Llew Jones – Martha’s Treaty Cakes – Yn ystod y cyfnod clo dechreuodd Martha goginio a gwerthu cacennau er mwyn helpu ei chymuned leol a oedd yn ynysu ac yn methu â mynd allan i gaffi.
Diolch yn fawr i’n beirniaid sydd eu hunain yn berchnogion busnes: Elin Evans o Elin Angharad, Josef Roberts o Pai Language Learning a Ioan Inge o Akron Productions. Dywedodd y tri ei bod yn bleser beirniadu’r Her a gweld ysbryd entrepreneuraidd a safon gwaith yr ymgeiswyr. ‘Roedd yn wych clywed am syniadau newydd a rhai sy wedi profi iddynt fod yn llwyddiannus yn barod! Da iawn bawb a daliwch ati!’