Lles wrth gychwyn busnes

Nawr yn fwy nag erioed, os ydych naill ai’n bwriadu dechrau busnes a gweithio i chi eich hun yn llawn amser, neu ddechrau busnes bach yn eich amser sbâr, os oes un peth yr wyf am ichi ddysgu o’r wefan hon, sut i edrych ar ôl eich hun yw hynny.

Oeddech chi’n gwybod, yn ôl Adroddiad Mynegai Ieuenctid Ymddiriedolaeth y Tywysog 2019, mae dros hanner pobl ifanc yn teimlo eu bod yn rhoi gormod o bwysau arnynt eu hunain i lwyddo.  Ac mae bron dwy ran o dair o bobl ifanc yn teimlo straen “drwy’r amser” neu “yn aml”.   

Mae’n bosibl bod cyflwyno y cyfyngiadau symud wedi gwaethygu rhywfaint o’r pwysau arnoch chi. 

Efallai eich bod yn ceisio ymdopi gyda nifer o wahanol swyddogaethau yn eich bywyd, efallai mewn swydd, yn astudio, neu bod gennych gyfrifoldebau gartref hefyd yn ogystal â dechrau neu redeg busnes newydd.   Edrychwch ar rhywfaint o’r wybodaeth a’r adnoddau isod, ac os ydych yn credu y gallwn wneud mwy i gefnogi entrepreneuriaid ifanc, gadewch inni wybod.  

Mae’n wir iawn bod problem sy’n cael ei rhannu yn broblem sydd wedi’i haneru.  Os oes gennych bethau ar eich meddwl sy’n eich cadw yn effro gyda’r nos, neu’n eich poeni wrth ichi geisio gwethiio, siaradwch â rhywun.  Ceisiwch siarad gydag entrepreur ifanc arall, efallai rhywun y gwnaethoch gyfarfod â hwy mewn gweithdy neu rhywun o’r ysgol – mae’n debygol iawn eu bod yn ceisio ymdopi â’r un problemau.  Os ydych yn gweld hyn yn anodd, pam na wnewch chi ddechrau drwy nodi eich meddyliau mewn dyddiadur neu lyfryn, neu ar eich cyfrifiadur.  Yna gallech ddod â hwn gyda chi i ddechrau sgwrs gyda rhywun.  Os nad ydych yn teimlo y gallwch rannu gyda cydweithiwr, ffrind neu berthynas, pam na wnewch chi ystyried siarad gyda’ch meddyg teulu neu berson yr ydych yn ymddiried ynddynt yn y coleg, prifysgol neu gartref.  Cofiwch, os nad yw unrhyw un o’r rhain ar gael, mae pobl ar gael ar y ffôn drwy’r amser. 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’n rhy hawdd inni fod ar ein ffonau, ein tabledi neu ein gliniaduron y dyddiau yma tan oriau mân y bore, mae bob un ohonom wedi bod yn y sefyllfa – wrth wneud traethawd, cynllun busnes neu ddim ond gwylio YouTube.  Cyn ichi sylweddoli dim, rydych yn gweld mai ychydig oriau sydd cyn I’r larwm ganu.  Mae cwsg mor bwysig!  Peidiwch a diystyrru hyn.  Ceisiwch gael trefn reolaidd i wneud yn siŵr bod gennych yr egni ac yn barod am y diwrnod o’ch blaen.  Os ydych angen help i gysgu, rhowch gynnig ar beidio defnyddio offer digidol am gyfnod.  Mae’r erthygl hon gan y BBC ychydig flynyddoedd yn ôl, ond mae’r holl wybodaeth yno ichi roi cynnig arni.  Peidiwch anghofio troi y golau glas ar eich dyfeisiadau a’u gwneud yn llai llachar, gall hyn leihau y straen ar eich llygaid a’i gwneud yn haws ichi gysgu wedi defnyddio dyfeisiadau yn y nos. 

Cymryd camau i wella eich hunan-barch

Hunan-barch yw sut rydych yn meddwl amdanoch eich hunain.  Os nad oes gennych lawer o hunan-barch, mae’n golygu bod y meddyliau sydd gennych yn negyddol. Gall hyn gael effaith fawr ar eich bywyd.  Ceisiwch ganolbwyntio ar bethau positif bob dydd a gwnewch yn siŵr bod gennych rwydwaith dda o bobl o’ch hamgylch.  Mae gan Young Minds gyngor ymarferol ar sut i wella sut yr ydych yn edrych ar bethau. 

Rhywbeth i roi cynnig arno: Y peth cyntaf yn y bore, ceisiwch sefydlu mantra positif; mae ond yn cymry 30 eiliad!  Mae’n bosibl defnyddio mantra fel cadarnhad bob dydd i ysgogi eich hun ac i geisio dod â phositifrwydd i’ch diwrnod.  Gall fod mor hawdd ag ail-ddweud datganiad positif neu atgoffa eich hun o’r hyn rydych yn ddiolchgar ohono, er enghraifft, “Mae gen i’r pŵer i greu newid”.  Beth bynnag rydych am ei gyflawni, dywedwch wrthych eich hun bob bore.  Drwy ddweud y datganiadau hyn wrthoch eich hun bob bore, mae’n gosod tȏn bositif i’ch diwrnod ac yn  helpu inni ail-drefnu ein hymennydd ac i feddwl yn bositif.  Mae gan un o’n modelau rôl, Sean Molino ddyfyniad, sef “mae positifrwydd yn magu positifrwydd” ac rydym yn credu bod llawer o wirionedd yn hyn.  Gall deimlo’n wirion ar y dechrau, ond ni fyddwch byth yn mynd yn ȏl i’ch hen ffyrdd wedi dechrau teimlo’r manteision. 

Mae pawb yn dweud hyn, ond gall bwyd gael effaith ar sut rydym yn teimlo.  Os ydych angen eich atgoffa beth yw bwyd da, neu gael ryseitiau neu gynghorion, edrychwch ar Tudalennau Bwyta’n Dda y GIG. Gall gwneud cynllun prydau ar gyfer pob wythnos a dim ond siopa am beth ydych ei angen helpu i arbed amser ac arian, ac yn bwysicaf oll, eich cael i fwyta’n well.  Mae digon o ganllawiau ar sut i baratoi pryd os ydych am eu gwglo.  Mae mwy o amser ac arian ar eich dwylo yn golygu bod gennych fwy o amser ac arian ii roi ’ch gweithgareddau busnes a’ch gweithgareddau arloesi.  Mae gwneud ymarfer corff hefyd yn bwysig iawn.  Eto, pan rydyn ni’n gweithio ar liniaduron, weithiau mae’r oriau’n mynd heibio heb inni symud o gwmpas, a gall hyn olygu ein bod yn teimlo braidd yn ddiog.  Mae yr hyn y mae pobl yn ei ddweud yn wir – efallai nad ydych yn teimlo fel gwneud ymarfer corff, ond fyddwch chi byth yn teimlo’n waeth ar ôl ymarfer corff – ond yn well bob tro!  Mae codi o’r cyfrifiadur a gwneud 20 naid seren yn ddechrau.  Mae’n cymryd llai na munud i godi eich curiad calon a theimlo’n fwy effro.  Anelwch at fynd am dro bob dydd.  Ymunwch â chlwb ffitrwydd (ar-lein neu dechreuwch pan fydd y gampfa’n agor eto!) – cewch hyd yn oed fynd allan ar eich beic!  Peidiwch anghofio, gall fynd allan helpu i ail-gynnau eich creadigrwydd hyd yn oed os mai dim ond unwaith y dydd ewch chi.  Os oes gennych unrhyw awgrymiadau sut i gadw’n ffit ac egnïol gartref, neu wrth weithio neu astudio wrth ddechrau busnes, gadewch inni wybod drwy  @syniadaumawrcymru a gallwn eu rhannu gyda’r rhwydwaith.

Dysgwch fwy am iechyd meddwl a’r hyn y mae’n ei olygu i chi drwy ddarllen yr wybodaeth hon gan y Sefydliad Iechyd Meddwl

Dod i wybod sut i wella eich llesiant, a gweld adnoddau a manylion cyswllt ar Young Minds

Heb roi cynnig ar ymwybyddiaeth ofalgar? Dyma eich cyfle.  Mae tudalen y Sefydliad Iechyd Meddwl ar ymwybyddiaeth ofalgar yn lle gwych i ddechrau.

Os ydych mewn argyfwng, ac nad ydych yn gwybod ble i droi, bydd y Samariaid yno i chi bob amser. Fyddan nhw byth yn eich barnu, na dweud wrthych beth i’w wneud, byddant ond yn gwrando arnoch.

Mae’r dolenni hyn yn ddolenni allanol yr ydym yn credu fydd yn ddefnyddiol ichi, ond nid ydynt yn gysylltiedig â Syniadau Mawr Cymru neu Lywodreth Cymru.  Am wybodaeth ar breifatrwydd ewch i’r polisïau preifatrwydd ar y gwefannau unigol. 

 

Dal ddim yn siŵr ble i droi? Anfonwch neges atom trwy'r cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn eich pwyntio i'r cyfeiriad cywir.