Bŵtcamp i Fusnes blog 2017

Wrth i benwythnos Bŵtcamp llwyddiannus arall ddirwyn i ben, mae’n bryd myfyrio ar y digwyddiad a sut mae wedi sbarduno grymuso’r entrepreneuriaid ifanc a oedd yn bresennol – pob un o’r 35 ohonyn nhw.

Cafodd Bŵtcamp i Fusnes ei gynnal o 3 - 5 Mawrth, 2017, ym Metws-y-coed, Gogledd Cymru. Cafodd 35 o entrepreneuriaid ifanc llwyddiannus o bob rhan o Gymru eu dethol i fynychu’r penwythnos er mwyn datblygu eu syniadau busnes drwy gyngor a chymorth arbenigol. Hefyd roedd ganddyn nhw’r cyfle i gyflwyno cynnig i banel o feirniaid am gyfle i gael cefnogaeth ychwanegol i hwyluso eu datblygiad.

Trwy gydol y penwythnos, gwnaeth ein hentrepreneuriaid ifanc esblygu, addasu a chryfhau eu syniadau, tyfu mewn hyder a chymeriad, a dysgu sgiliau newydd a fydd yn eu helpu i fynd â nhw o Fŵtcamp i Fusnes yn y dyfodol agos!

Roedd y penwythnos yn llawn gweithdai ysgogol dan arweiniad siaradwyr gwadd ysbrydoledig ac entrepreneuriaid a gynigiodd straeon llwyddiant gan y bobl sydd wedi bod yno a’i wneud e; unigolion profiadol ag angerdd dros ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.  

Dechreuodd y penwythnos â sesiwn rwydweithio i dorri’r iâ a gyflwynwyd gan ein Modelau Rôl ymroddedig, Annette Gee, o Taskforce Paintball, a’r anhygoel George Savva, sylfaenydd It takes…7 seconds Ltd. Chwaraeodd y ddau ohonyn nhw rôl allweddol yn y Bŵtcamp ac roedden nhw wrth law drwy gydol y penwythnos i gynnig geiriau anogaeth. Ysgrifennodd Annette am ei phrofiad

“WAW...... am benwythnos anhygoel! Diolch i bawb ar y Bŵtcamp am y mewnbwn gwych, y cyflwyniadau rhagorol, y cynigion, syniadau ardderchog, a’r holl egni ac ysbrydoliaeth. Cadwch yn bositif a chadwch i freuddwydio...”

 

Yn dilyn y sesiwn torri’r iâ, roedd gweithdai dydd Gwener yn cynnwys y siaradwr ysbrydoledig, Tansy Rogerson o Armadillo Events, a roddodd y geiriau doeth, “yr unig berson sy’n eich atal chi yw chi”.

 

 

 

Chris Walker Marketing Workshop

Pwysleisiodd Josh Barnett o Simply Do Ideas, platfform ar-lein i gefnogi datblygu’ch cynllun busnes, bwysigrwydd creadigedd.  

Soniodd Chris Walker People Systems International am bwysigrwydd gwaith tîm yn ystod ei sesiwn am bersonoliaeth, “mae tîm yn cael ei ddiffinio fel bod yn ymrwymedig i bwrpas cyffredin – timau yw peiriant y busnes”.


Cwmpasodd y penwythnos bob agwedd ar fusnes, o gyfryngau cymdeithasolmarchnata a gwerthu i’r gwersi mwy sylfaenol sydd i’w dysgu, asgwrn cefn busnes sy’n cael eu hanwybyddu mor aml.

Dechreuodd dydd Sadwrn gyda sesiwn gan Kathryn Penaluna, Rheolwr Menter Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a siaradodd am Eiddo Deallusol. Cafodd hyn ei ddilyn gan weithdy am Gyrchu Cyllid gydag Owain Williams o Natwest. Daeth Chris Walker yn ôl gyda sesiwn ar Farchnata’ch Cynnyrch, gan bwysleisio pwysigrwydd dychmygu’ch busnes yn y dyfodol er mwyn aros ar flaen y gad.

Notes on a desk

Yn y prynhawn, trafododd Gaz Thomas Gyfryngau Cymdeithasol a Phresenoldeb Digidol trwy ei stori bersonol am gynigion a gwallau wrth greu ei gemau gwe hynod o lwyddiannus.

Yn null digymar George Savva, dechreuodd yntau ei sesiwn, Disgrifio a Gwerthu’ch Cynnyrch, gyda throsiad pwysig “Rych chi’n methu gwerthu mefus a hufen i bysgod”gan annog ein hentrepreneuriaid ifanc i ddod o hyd i’w cynulleidfa darged, dysgu o’u camgymeriadau, a rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a symud ymlaen.


Mwynhaodd y cynadleddwyr dipyn o seibiant yng Nghoedwig Zip World cyn dechrau’r gweithdai Cyflwyno Cynnig hollbwysig dan arweiniad Model Rôl arall, Stifyn Parri, MR PRODUCER. Sbardunodd Stifyn hyder ac ymgais ymhlith ein hentrepreneuriaid ifanc yn barod am eu diwrnod olaf ond un yn y Bŵtcamp. Ysgrifennodd un ohonyn nhw am Stifyn

"You were fabulous, thank-you for all the lessons that I will now also use in everyday life not just in front of a pitch panel. The change I saw in some people this weekend due to your talks was awesome, truly remarkable. I hope you realise the importance of your lessons. "

Roedd yn fendigedig gweld aelodau’r Bŵtcamp o flynyddoedd blaenorol yn mynychu’r penwythnos i gynnig cefnogaeth ac arweiniad o’u profiad eu hun o fynd o’r Bŵtcamp i Fusnes; roedd Emily Farr wrth law drwy gydol y penwythnos a chynigiodd noson o adloniant gyda’i chwmni Rewired MusicJamie Hunt, o Dakona a Connor Western, HummingBird Creative Productions, oedd yn darparu’r fideograffiaeth a’r ffotograffiaeth swyddogol am y digwyddiad.

 

 

Wrth i rai grwpiau gyflwyno eu syniadau busnes, cynhaliodd Alice Murray o Giggles and Games, a Sid Madge o Mad Hen sesiynau ar Rwydweithio Effeithiol a “Beth sy’n Fy Ngwneud i’n Fi?”. Yn ystod y cyflwyniadau, haerodd ein hentrepreneuriaid ifanc eu hyder, camu tu allan i’w parthau cysur a rhoi eu gwybodaeth newydd ar waith.

Ar ôl y cyflwyniadau, daeth y digwyddiad i ben gyda seremoni wobrwyo wefreiddiol a gafodd ei chyflwyno gan Stifyn Parry a siaradwr gwadd, y cwbl ysbrydoledig Sean Taylor, sylfaenydd Zip World, a brofodd drwy ei stori ef fod gwaith caled a phenderfyniad yn gwneud unrhyw beth yn bosib.

Am benwythnos! Roedd hi mor galonogol gweld pobl ifanc angerddol a phenderfynol yn cychwyn ar eu teithiau tuag at lwyddiant.  Un o agweddau mwyaf gwerthfawr y penwythnos oedd y cysylltiadau, cydweithrediadau a chydberthnasau a gafodd eu ffurfio ac sy’n parhau i flodeuo.

Enillwyr ar y diwrnod

  • Cynnig Gorau - David Vaughan, Dave's Quails, Coleg Castell-nedd Port Talbot
  • Syniad Mwyaf Arloesol - Beatrice Amucha, Net-less, Coleg Dewi Sant
  • Aelod Gorau’r Bŵtcamp - Sam Hamill, Big on Fish, Prifysgol Bangor

 

“Dim ond diolch mawr i bawb! Roedd yn wych cael gwybod bod pobl eraill allan yno sydd yn yr un cwch â mi!” – David Vaughan

 

Humming Bird

 

 

 

 

Fe ofynnon ni beth oedd pobl yn meddwl am y penwythnos...

  • Stifyn Parri, Siaradwr “Wel rwy’n wefreiddiedig o hyd. Am benwythnos bendigedig ac ysbrydoledig. Diolch i bob un ohonoch chi am ei wneud beth oedd e - yn gofiadwy wir. Llongyfarchiadau i chi i gyd, ac roedd yn anrhydedd gwirioneddol gweithio gyda chi. Cofiwch beidio byth â gwneud cerddediad marwolaeth, peidiwch byth â siarad yn y llais 1af a pheidiwch byth â rhoi’r gorau i gredu y GALLWCH chi! Fe lwyddoch chi. Gobeithio eich gweld chi a’ch gwaith chi eto cyn hir.”
  • Sam Allen (Cynghorydd Busnes) "Wel, bobl, roedd hynny’n penwythnos anhygoel. Galla i ddweud o ddifri fy mod i wedi fy syfrdanu gan eich holl ymdrech, eich brwdfrydedd a’r bobl fendigedig rwyf wedi cael y pleser o weithio gyda nhw. Methu credu faint rydych chi i gyd wedi ei gyflawni, mae wedi bod yn benwythnos i’w gofio’n ddiau. Am griw ysbrydoledig. Hoffwn i ddweud diolch o galon i chi i gyd, heb ymroddiad pawb ni fasai hyn wedi bod yn bosib. Daliwch ati gyda’r gwaith eithriadol. Rwy mor falch ohonoch chi i gyd; diolch am roi mwy o resymau byth i mi garu fy swydd. A chofiwch os oes arnoch chi angen arweiniad, help neu dim ond rhywun i drafod eich syniadau gyda nhw, ryn ni i gyd yma i’ch helpu."
  • Eleri Lewis "Diolch i bawb am benwythnos cofiadwy. Roedd eich brwdfrydedd a'ch gwaith caled yn werth eu gweld a diolch am fod yn griw mor hwylus. Cofiwch fod y gefnogaeth yn parhau felly gwnewch y gorau o'r cyfle."
  • David Bannister "Dim ond eisiau dweud diolch i bob un ohonoch chi am eich gwaith caled a’ch ymroddiad dros y penwythnos. Ces i fy syfrdanu wir nid yn unig gan eich ymdrech, ond gan eich gweld chi i gyd yn tyfu. Roedd y newidiadau a weles i mewn rhai ohonoch chi’n anhygoel. I mi rydych chi i gyd yn enillwyr." 

  • Kyle Bloor, Sigweb "Dilynwch eich breuddwydion, bobl, peidiwch byth â rhoi’r gorau ac un diwrnod byddwch chi’n mwynhau ffrwyth eich llafur"
  • Bethan Maria Germain, Magic Garden Event Face Painting "Y penwythnos diwetha, ces i’r pleser o fynychu Bŵtcamp gogledd Cymru ‘Syniadau Mawr’! Cynifer o ragolygon ffres a chysyniadau newydd a chyffrous i genhedlaeth nesa busnes Cymru! Diolch yn fawr iawn am fy nghael i a digwyddiadau’r ardd hud!"
  • Dave Taylor "Diolch i bawb, yn arbennig y siaradwyr a’r holl staff a helpodd i gynnal y penwythnos. Doeddwn i ddim yn meddwl y baswn i’n dod oddi yno gyda chymaint o ysbrydoliaeth a chyffro ag rwy wedi gwneud. Bydd y cysylltiadau rwy wedi eu gwneud ym amhrisiadwy ac roedd y profiad ei hun yn anhygoel. Roedd hi mor braf bod yng nghwmni pobl eraill sy’n rhannu’r un angerdd a brwdfrydedd am adeiladu eu busnesau eu hunain"