Proses Barnu & Gwobrwyon

Caiff y ceisiadau ar-lein eu sgorio gan banel annibynnol o feirniaid sy’n cynnwys Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru ac unigolion allweddol eraill o fyd busnes yng Nghymru.  Sgoriau’r beirniaid fydd yn pennu’r sawl a fydd yn cyrraedd y rhestr fer ac a gaiff eu gwahodd i gymryd rhan yn y digwyddiad Arddangos a gaiff ei gynnal ar 22 Mawrth 2018 yng Prifysgol Bangor. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod beth mae’r beirniaid yn chwilio amdano - cymerwch gip ar y matrics sgorio a’r categoriau

Ar ddiwrnod y digwyddiad Arddangos, bydd gan bob ceisydd gyfweliad 5 munud gyda 5 beirniad unigol wrth eu stondin arddangos.

Yn ogystal bydd pob un o’r 40 ymgeisydd sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cyflwyno cynnig 2 funud gerbron panel o 3 beirniad gwahanol.

BIC Exhibition

 

Caiff y gwobrau eu cyhoeddi cyn y digwyddiad a bydd eu manylion ar ein gwefan.  Bydd y rhain yn amrywio o weithgareddau profiad a chysgodi entrepreneuriaid busnes go iawn i dalebau rhoddion a deunyddiau ac offer cysylltiedig â busnes. Dyma rai o’r gwobrau hyd yma:

Bydd enillydd pob categori yn derbyn £500 i’w buddsoddi yn eu syniad neu eu menter fusnes.

Pecyn cychwyn gwerth £750 oddi wrth Welsh ICE

Taleb Amazon am £100 a sesiwn creu syniadau gyda Simply Do Ideas

Diwrnod gyda Mechanical Services Management i enillydd y Wobr Effaith Amgylcheddol

Diwrnod gyda North Wales Dragons Ltd i enillydd y Wobr Effaith Gymdeithasol

Taleb Amazon am £200 oddi wrth Hello Starling

Taleb Amazon am £100, cofau bach ac ysgrifbinnau oddi wrth BCC IT Ltd

Tocyn iTunes am £50 a Sesiynau Mentora gyda Lorraine Allman, Sylfaenydd a CEO Enterprising Child.

£100 Taleb Amazon - Blackler Wealth Management

Cadwyn arian a gwlân gan Gemwaith Wyn / Handmade silver and wool Wyn Jewellery Cadwyn werth £60

Wythnos o brofiad gwaith a sesiynau mentora busnes  – Antur Waunfawr

Taleb am gwrs hanner diwrnod wrth droell y crychenydd ar ddyddiad yn 2018 i fyfyriwr ac athro yn Stiwdio Siramik, Lanclynadda, Alltwalis, Caerfyrddin.

Dwy set o 500 o gardiau busnes o’r radd flaenaf (gwerth £49+TAW) – The Media Group

5 awr o fentora busnes drwy gyfrwng Skype - 1st Life Management Group

Sesiwn tynnu ffotograffau 1-2 awr ar gyfer ffotograffiaeth cynhyrchion/gwefannau - Ffotograffiaeth Kristina Banholzer Photography

Ymbareli ansawdd manwerthu o’r radd flaenaf - Pagepromo

Pecyn Cychwyn Busnes sy’n cynnwys:
12 Mis o fynediad i GSuite
100 o Gardiau Busnes.

 

YMGEISIWCH YN AWR!