Alex Hinchcliffe
Ecology Expeditions
Trosolwg:
Sectorau:
Twristiaeth
Rhanbarth:
Gwynedd

Mae Alex wedi sefydlu Ecology Expeditions ar ôl cael help gan Glwb Busnes Prifysgol Bangor.

I mi, yr hyn oedd yn allweddol oedd peidio â rhoi’r gorau i gredu. Fe orfodais i fy hun i ddychmygu sut beth fyddai rhedeg y busnes yma, a sut byddwn yn datrys y problemau. Roeddwn i’n ceisio ei wneud yn realiti yn fy meddwl. Rydw i’n dal i wneud hynny.

Alex Hinchcliffe - Ecology Expeditions

Roedd Alex yn astudio am MSc mewn Ecoleg ym Mhrifysgol Bangor pan aeth ar daith faes ecolegol drofannol i Dominica. Roedd yn arweinydd taith ac yn athro gwyddoniaeth profiadol eisoes ac roedd yn cael llond gwlad o syniadau am sut gallai redeg ei deithiau maes pwrpasol ei hun ar gyfer gwahanol bynciau gwyddonol.

Ecology Expeditions

Yn ôl ym Mangor, dechreuodd Alex ymwneud â’r Clwb Menter, a oedd yn cael ei weithredu gan yr Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth, Lowri Owen and Ceri Jones

Roedd y clwb yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i fyfyrwyr oedd â syniadau busnes, i’w rhoi ar y llwybr priodol a chynnig cyngor a chysylltiadau, gan gynnwys ble mae cael hyd i arian er mwyn rhoi cychwyn i’r busnes.             
 
Erbyn hyn roedd Alex yn cydweithio â chydfyfyriwr a oedd wedi byw ym Morneo Malaysia ac roeddent yn teimlo bod jyngl trofannol a moroedd yr ardal hon yn lleoliad perffaith ar gyfer teithiau.
 
Canfu’r Clwb Menter fentor iddynt, a rheolwr masnachol ym Mangor. Gyda’u help nhw ailysgrifennodd Alex ei gynllun busnes a sicrhaodd ddau grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd y cyllid yma’n galluogi Alex a’i bartner busnes i brynu cit cerdded a’u lleoli eu hunain ym Malaysia.
 
Doedd cadarnhau’r daith gyntaf ddim yn hawdd - yn enwedig pan fu’r cyswllt allweddol â Phrifysgol Malaysia Sabah yn fethiant. Ond ym mis Medi 2009 fe ddigwyddodd. A gyda’r archebion yn eu lle eisoes, dylai’r busnes fod yn hunangynhaliol erbyn haf 2010.

 

Elfennau allweddol

Clwb Busnes Bangor - "Fe wnaeth y clwb fy rhoi i mewn cysylltiad â phobl allweddol yn gyflym iawn. Roedden nhw’n deall fy anghenion i ac yn gallu fy ngosod i yn y rhan briodol o’u rhwydwaith sefydlu busnes.”