Alex Louise Brown
Siaradwr a Chymhellwr Llwyddiant
Trosolwg:
Cymhellwr llwyddiant ffyniannus sy’n arbenigo mewn arian, eiddo a rhyddid ariannol
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Ches i ddim f’ysbrydoli gan yr ysgol erioed, a gadawais i’n 15 oed yn laslances ddig ac angerddol. Roeddwn i’n gweithio mewn bwytai ers 14 oed, gan weithio oriau hir a chaled ac yn y pen draw adeiladu gyrfa i’m hun fel cogydd.

Ar yr un pryd, ymunais â byd eiddo, gan adeiladu portffolio o eiddo am rent a datblygiadau, ac yn 32 oed gadawais i waith cogydd unwaith ac am byth i ganolbwyntio ar eiddo. Erbyn hyn mae fy mhortffolio eiddo’n werth mwy na £2.5 miliwn ac rwy’n cynnal fy mhortffolio ac yn hyfforddi pobl i wneud yr un peth!

Y freuddwyd nesaf rwy’n gweithio tuag ati yw cael fferm a theulu

Ffactorau Llwyddiant: Dyfalbarhad; defnyddio llyfrau, seminarau, cymhellwyr a’m chwilfrydedd i ddysgu

Sgiliau Busnes: Gwella Effeithlonrwydd Busnes; Rheoli Llif Arian; Rheoli Adnoddau Dynol; Rheoli Prosiectau; Recriwtio

Sector: Bwyd a Diod, Adeiladu

Gwefan: www.alexssupperclub.com