Roedd Alex a Richard wedi bod yn ffrindiau ac yn gydweithwyr am dros 17 o flynyddoedd. Hyfforddwyd y ddau fel peirianwyr ac roedd ganddynt brofiad arbennig yn y diwydiant gwneud offer, ac felly roedd eu harbenigedd yn golygu eu bod mewn sefyllfa berffaith i edrych am fylchau posibl yn y farchnad:
Byddwch yn hyblyg ac yn ddeinamig! Sicrhewch fod eich busnes wedi ei strwythuro fel y gall addasu i newidiadau cyflym yn yr economi a gofynion y farchnad.
Alex Pullman & Richard Barnes - ts design
Dechreuodd y ddau ymchwilio i feysydd cymorth posibl ar gyfer mentrau busnes newydd ac anaeddfed, a dyna lle y daethant ar draws Cefnogaeth Busnes Cymru.
Cawsant gymorth i wneud cais am fwrsari Cychwyn Busnes i Raddedigion, a wnaeth eu galluogi i dalu eu costau dechrau gwreiddiol, a neilltuwyd cynghorydd busnes iddynt a roddodd gysylltiadau defnyddiol iddynt a’u cyfeirio at gymorth busnes arall am ddim. "Mae Cefnogaeth Busnes Cymru wedi bod yn allweddol nid yn unig yn ein llwyddiant hyd yn hyn, ond maent wedi ein galluogi i adeiladu ar gyfer y dyfodol. Maent wedi gwneud beth allai fod wedi bod yn daith anodd yn haws o lawer!"
"Gwelon ni ddolen wan ym maes Cyflwyno Cynnyrch Newydd (NPI). Ein syniad oedd gweithio gyda busnesau eraill fel ymgynghorwyr er mwyn rhannu ein blynyddoedd o brofiad â hwy gan wneud rhywbeth rydyn ni’n ei fwynhau ar yr un pryd."
Gwefan:
Twitter: @tsdesignuk
Facebook: /tsdesignuk
Instagram: /tsdesignuk