Baz Dhaliwal
Rikoŝet
Trosolwg:
Dylunio cynnyrch diogelwch ar gyfer chwaraeon
Sectorau:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Rhanbarth:
Caerffili

Ar gyfer ei brosiect olaf yn ei gwrs gradd dylunio cynnyrch, penderfynodd Baz Dhaliwal adael i’r diddordeb mawr arall yn ei fywyd - pêl-droed - ddylanwadu ar ei syniadau creadigol, a dyfeisiodd gynllun unigryw ar gyfer diogelu’r grimog. Yn ystod ei arholiad llafar yr anogodd ei diwtor yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) Baz am bosibiliadau masnachol y cynnyrch. Hwn oedd y sbardun yr oedd ei angen ar yr entrepreneur ifanc:

Gwrandewch ar ddoethineb pobl eraill. Sicrhewch fod arbenigwyr a mentoriaid o’ch amgylch a manteisiwch ar bob cyfle rhwydweithio.

Baz Dhaliwal - Rikoset

Fodd bynnag, teimlai Baz nad oedd y wybodaeth fasnachol angenrheidiol ganddo. Cefnogaeth Busnes Cymru helpodd Baz i sefydlu ei fusnes Rikos^et, ei gynorthwyo â chynllun busnes a’i gefnogi’n ariannol drwy fwrsari Cychwyn Busnes i Raddedigion.

Mae Baz yn gwybod efallai na fyddai yn ei sefyllfa bresennol heb yr holl gyngor a gafodd gan ei gynghorydd busnes a drwy weithdai Cychwyn Busnes i Raddedigion ar werthu a marchnata. "Gwnaethon nhw hyd yn oed fy rhoi mewn cysylltiad â chyfrifydd sydd wedi gosod fy rhaglen cyfrifon fy hun i mi".

"Yn y bôn rwy’n credu fy mod wedi bod eisiau fy musnes fy hun erioed - onid yw’r rhan fwyaf o bobl? Gydag ychydig o help roeddwn yn gallu gweld y gallai’r prosiect gradd hwn fod yn gyfle perffaith."