David Vaughan
Dave's Quails
Trosolwg:
fusnes wyau soflieir
Sectorau:
Ffermio a choedwigaeth
Rhanbarth:
Castell Nedd Port Talbot

 

Entrepreneur ifanc o ffermwr yn hedfan wrth sefydlu busnes newydd

 

Mae  David Vaughan, entrepreneur o Lanfair-ym-muallt yn gwireddu ei freuddwyd o sefydlu fferm soflieir gyda 10,000 o adar.

Mae David, sy’n fyfyriwr yng Nghampws Bannau Brycheiniog Colegau NPTC, wedi ffermio soflieir am ychydig dros flwyddyn ac yn eu cadw mewn sied fawr yng ngardd ei rieni. Ar hyn o bryd mae’n gofalu am 120 o soflieir sy'n dodwy hyd 350 o wyau’r wythnos ac mae’n cyflenwi cigyddion a chyfanwerthwyr lleol.

Wrth gychwyn ar ei daith i ddechrau’i fusnes, cafodd David gefnogaeth mentora a busnes gan raglen Syniadau Mawr Cymru yn ei fenter entrepreneuraidd gyntaf sydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae David yn gwerthu’i wyau soflieir dros ganolbarth Cymru, yn bennaf yn Aberhonddu, Llanfair- ym-muallt, Llandrindod a Llanwrtyd. Mae ganddo berthynas fusnes gadarn gyda nifer o gigyddion annibynnol lleol gan gynnwys Easts of Brecon a Paddy Sweeney Butchers, sy’n cyflenwi cigoedd arbenigol i fwytai ac yn gwerthu ei wyau yr un pryd. 

Wrth ddisgrifio sut y sefydlodd ei fusnes wyau soflieir, meddai David: “Mae ffrind fy nhad yn cadw soflieir, mae’n rhywbeth roeddwn i wedi’i weld â’m llygaid fy hun ac roedd wedi codi fy niddordeb. Dechreuais gydag ychydig o adar a dechrau cynyddu fy haid fesul tipyn.

 

“ Fe sylweddolais i’n fuan y byddai’n rhaid i mi werthu fy wyau i sawl cwsmer.  Dechreuais ymweld â threfi’r ardal a thrafod â chigyddion annibynnol a chodi eu diddordeb mewn derbyn fy stoc.

 

“Roeddwn i wedi ymchwilio’r farchnad yn drwyadl ac yn deall yn union beth roedd y busnesau’n edrych amdano.  Doedd y ffaith fy mod i’n ifanc yn amharu dim ar hynny. Mae pawb wedi fy nhrin i’n gyfartal erioed, sydd wedi cynyddu fy hyder ar gyfer datblygu ail ran fy nghynlluniau ar ôl cyrraedd fy neunaw oed.”

 

Mae ail ran cynlluniau busnes David yn cynnwys datblygu fferm soflieir 10,000 o adar, eleni,  gobeithio. Mae eisoes yn trafod trethi a chaniatâd cynllunio gyda’r cyngor.  Mae hefyd wedi paratoi ei gynllun busnes erbyn ei ben-blwydd deunaw oed fis Ebrill.

Sam Allen yw Ymgynghorydd Busnes dros Syniadau Mawr Cymru ac mae wedi bod yn cynghori David ar safbwyntiau ariannol ei gynllun busnes.

Yn gynnar fis Mawrth eleni, aeth David i Fŵtcamp Syniadau Mawr Busnes Cymru ym Metws y Coed.  Roedd yn un o hanner cant o entrepreneuriaid ifanc, uchelgeisiol a oedd yn cymryd rhan mewn penwythnos heriol o weithdai i ehangu eu gwybodaeth am entrepreneuriaeth pobl ifanc ac i hogi'r sgiliau y maen nhw eu hangen i sefydlu eu busnesau ac i ddatblygu eu rhwydwaith o gysylltiadau.

Enillodd David  y wobr am ‘Gais Busnes Gorau’ y penwythnos am ei gyflwyniad ar ei fusnes wyau soflieir a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Kelly Jordan oedd wedi sôn wrth David am Fŵtcamp Syniadau Mawr Cymru.  Hi yw Pencampwr Menter Grŵp Colegau NPTC, ble mae’n fyfyriwr yn astudio busnes.

Mae adran Menter a Chyflogaeth Grŵp Colegau NPTC yn cefnogi myfyrwyr presennol a chyn myfyrwyr i ddatblygu syniadau entrepreneuraidd ac i feithrin y sgiliau y maen nhw eu hangen yn y byd gwaith neu wrth sefydlu eu busnesau eu hunain.

“Roedd cymorth Kelly yn amhrisiadwy”, meddai David, “oni bai amdani hi, fyddwn i ddim ble rwyf i heddiw. Mae hi wedi fy nghefnogi ar hyd y daith.”

Mae amrywiaeth o weithgareddau’n cael eu rhedeg yn wyth campws y Coleg gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Syniadau Mawr Cymru. Mae’r gwaith yn cyflawni Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid sy'n annog pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuraidd ac yn helpu'r rhai sydd â diddordeb mewn dechrau busnes i ddatblygu eu syniadau.

Meddai Kelly: “Mae wedi bod yn ffantastig gweithio gyda David, yn ei helpu i dyfu’i fusnes a’i helpu i gael y sylw mae’n ei haeddu. Rydym ni yn Ngrŵp NPTC yn annog ac yn cefnogi’n myfyrwyr gydol eu taith fusnes, o’r syniad i'r masnachu a thu hwnt i hynny."

Ac wrth edrych ymlaen, mae David eisoes yn creu'r perthynasau newydd y bydd eu hangen i wireddu ei freuddwydion.  Mae’n trafod gyda chasglwyr a dosbarthwyr wyau Stonegate sydd â’r  adnoddau dosbarthu wyau mwyaf diweddar yng Nghymru a Lloegr ac sy’n cyflenwi wyau'r buarth ac wyau organig i siopau ledled y DU.

 

“Rwyf wrth fy modd gyda’r hyn rwy’n ei wneud ac yn awyddus i dorri fy nghwys fy hunan”, meddai David.  “Rwy’n eithriadol o hoff o’m soflieir, ‘fy ngenethod’, ac rwyf eisiau troi'r angerdd hwnnw’n fusnes go iawn. Busnes sy’n gallu ffynnu yng nghanol economi’r Gymru wledig. Efallai fy mod yn ifanc ond mi wn yn iawn beth sydd o’m blaen.”