Mi roedd Delyth a’i phartner Paul wedi bod yn edrych am gyfle i sefydlu eu busnes gwerthu bwyd eu hunain am beth amser. Roedd y ddau wedi gweithio am sawl mlynedd yn y diwydiant ac wedi datblygu angerdd am fwyd o ansawdd uchel a breuddwyd o sefydlu ar eu pen eu hunain. Ar ôl arsylwi ar fwlch yn a farchnad yn eu cartref Newydd, cysylltodd Delyth a Chefnogaeth Busnes Cymru.
Seiliwch eich busnes ar ddiddordeb neu angerdd; mi fydd hyn yn eich helpu i gadw’n ysgogedig. Yna, edrychwch am fwlch hyfyw yn y farchnad, gan addasu eich wasanaeth os oes angen.
Delyth McCreevy - Delicatessen Blasus
Yn ystod y deg mis olynol, mi gyfarfu hi yn reolaidd gyda mentor busnes a’i chynorthwyodd hi i herio rhai o’r prosesau mwyaf biwrocrataidd ynghylch a sefydlu busnes gwerthu bwyd, a derbyn cyngor ar ba adran I’w gysylltu a, a phwy I gofrestru gyda ac ati.
“Yn y pen draw fe aeth popeth yn esmwyth” meddai Delyth, “Rydych yn clywed erstalwm am bobl yn cael hunllef gyda dechrau busnes Newydd ond fe gawsom ni cefnogaeth ardderchog ac o ganlyniad roedd y proses gyfan yn hawdd tu hwnt”
“Pan y symudon ni i Orllewin Cymru, welon ni yn syth fod dim Delicatesen yng Nghaerfyrddin. Meddylion ni “Dyma’n cyfle””