James Clarke a Ben Widdowson
True Reflections UK Ltd
Trosolwg:
Dylunio a datblygu cynnyrch
Sectorau:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Conwy

Dechreuodd y cyfan pan enillodd cynllun clo sgi James y wobr 1af mewn cystadleuaeth genedlaethol yn targedu entrepreneuriaid ifanc. Er ei lwyddiant, pan ddaeth at farchnata’r cynnyrch doedd y drysau cywir ddim yn agor. Felly unodd James â’i ffrind a chyd-fyfyriwr dylunio, Ben, i ddechrau eu cwmni dylunio cynnyrch eu hunain ym Mae Colwyn.

Gwnewch ymchwil trwyadl i’r farchnad cyn i chi ddechrau - bydd angen i chi wybod pwy fydd yn talu am eich cynnyrch a sut y bwriadwch eu cyrraedd

James Clarke & Ben Widdowson - True Reflections UK Ltd

Eu cam nesaf oedd cysylltu â Chefnogaeth Busnes Cymru i gael cymorth â chynllunio busnes, rhagolygon ariannol a gwneud cais am Fwrsari Cychwyn Busnes i Raddedigion. "Rhoddwyd llawer iawn o gymorth i ni. Roedd ein mentor busnes yn drwyadl dros ben." Cafodd James a Ben fudd hefyd o fynd i nifer o weithdai Cefnogaeth Busnes Cymru a ddarparai hyfforddiant dwys ar bynciau megis marchnata a chyfraith cyflogaeth.

Bellach maent yn mwynhau llwyddiant nodedig, yn gweithio gyda chwmnïau megis Fred Aldous Ltd a Fabritect. Mae’r ddau wrth eu boddau â’r ffaith mai eu heiddo deallusol eu hunain yw eu syniadau yn hytrach nag eiddo rhywun arall. "Fel dylunydd o fewn cwmni," eglura James, "mae eich cyflogwyr yn talu cyflog cyffredin i chi ac maent yn cadw eich holl syniadau - ond nid dyna’r sefyllfa bellach."

"Bydden ni’n edrych ar y gystadleuaeth ac yn meddwl ‘gallwn ni wneud yn well na hynny’. Beth bynnag, roedd y sefyllfa economaidd wedi lleihau faint o gyfleoedd swyddi oedd ar gael i ddylunwyr - penderfynon ni os nad oedd neb yn mynd i’n cyflogi y bydden ni’n cyflogi ein hunain!"