Jamie Evans & Codey Dyer
Paper Giant Studios
Trosolwg:
Dylunio gemau cyfrifiadur
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

 

Amcangyfrifwyd yn ddiweddar bod y farchnad ‘gemau achlysurol’ fyd-eang werth tua £2.23 biliwn y flwyddyn. (I’r rheini nad ydynt mor dechnegol, math o gêm cyfrifiadur yw ‘gêm achlysurol’ a gaiff ei chwarae ar-lein fel arfer; maent ar gael drwy’r amser, yn aml yn eithaf byr, ac yn cynnig gwobrwyon cyson). Pan ddysgodd dau o raddedigion dylunio gemau cyfrifiadur o Brifysgol Casnewydd am y fath gymhelliant ariannol cyffrous, rhoddon nhw gynlluniau ar waith ar gyfer eu stiwdios annibynnol eu hunain.

Sicrhewch fod y wybodaeth ddiweddaraf gennych am y dechnoleg ddiweddaraf sy’n newid mor gyflym - sicrhewch mai chi yw’r cyntaf i wybod am ddatblygiadau newydd, gan fanteisio arnynt yn hytrach na dal i fyny â nhw.

Jamie Evans & Codey Dyer - Paper Giant Studios

Aeth Jamie a Codey at Cefnogaeth Busnes Cymru yn gyntaf gan eu bod wedi clywed am y cyngor busnes am ddim oedd ar gael. "I fod yn onest," dywed Codey, "roedden ni’n go ddiniwed. Y gweithdai Cychwyn Busnes i Raddedigion oedd yr union beth yr oedd ei angen arnom i ddechrau". Ar ôl deall y ffeithiau sylfaenol am dreth a llif arian, neilltuwyd cynghorydd busnes i’r ddau ddylunydd a helpodd ef nhw i lunio cynllun busnes manwl a gwneud cais am fwrsari Cychwyn Busnes i Raddedigion.

"Roedd yr arian yn hanfodol. Hebddo fe ni fyddem wedi cyrraedd lle rydyn ni wedi ei gyrraedd heddiw" - sef rhoi’r cyffyrddiadau olaf i’w dyluniad cyntaf, Seed Pod Shuffle™, a datblygu cydberthnasau â sawl cwmni dosbarthu mawr ar-lein.