Jodi Anderson
Govindas Foods Ltd
Trosolwg:
Manwerthu cynhyrchion bwyd llysieuol a bwydydd ‘heb’
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Mae Govindas Foods Ltd yn cymryd ei enw o’r gair Sanscrit sy’n golygu ‘amddiffynnydd gwartheg’. Mae’n ymadrodd sy’n crynhoi’r ethos llysieuol y tu ôl i’r cynhyrchion gan mai deiet heb gig Jodi oedd ei phrif gymhelliant i ddechrau’r busnes.

Peidwich â cheisio microreoli - dirprwywch dasgau yn hytrach na cheisio rheoli pob manylyn. Os byddwch yn grymuso eich staff o’r cychwyn cewch fwy allan ohonynt yn yr hirdymor.

Jodi Anderson - Govindas Food Ltd

O’r cychwyn, dechreuodd un cynnyrch guro’r lleill: ei henwog gacen gaws heb gynnyrch llaeth. Dechreuodd Jodi wneud sypiau mwy a mwy er mwyn ateb y galw, nes un diwrnod cafodd archeb mor fawr y bu’n rhaid iddi symud ei gweithrediadau i ffatri er mwyn cyflenwi’r niferoedd gofynnol. A dyna ni: mae Govindas Foods Ltd bellach yn cyflenwi pedwar manwerthwyr bwyd iach mwyaf y DU ac yn allforio i dros 21 o wledydd Ewrop.

Mae Jodi yn priodoli llawer o’i llwyddiant i’r gefnogaeth a gafodd, yn enwedig drwy Cefnogaeth Busnes Cymru. Roedd ei mentor busnes Cychwyn Busnes i Raddedigion yn gyfrifol am sefydlu sawl cyfle rhwydweithio allweddol, yn ogystal â’i helpu i gael bwrsari Cychwyn Busnes i Raddedigion a fu’n sail ariannol hanfodol yn ystod y misoedd cynnar anodd hynny.

Mae Jodi dal ym mlwyddyn olaf cwrs gradd mewn Busnes a Marchnata, er na fydd ei chwsmeriaid yn sylweddoli hyn. Mae hi’n llwyddo i orffen ei chwrs yr un pryd â rhedeg y busnes, gorchest sydd wedi ennill teitl Entrepreneur Ifanc 2009 iddi a ddyfarnwyd gan Brifysgol Morgannwg.

“No one would believe that it didn’t have a single dairy product in it. It’s just as tasty as a ‘normal’ cheesecake, the only difference is it’s much lighter”