Jonathan Hughes
J & Jay Events
Trosolwg:
Gwasanaeth bar symudol yn arbenigo ar goctels
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Wrecsam

 

Dechreuodd diddordeb Jonathan yn y grefft o wneud coctels gyntaf pan ddechreuodd weithio mewn gwesty ger ei gartref yn Wrecsam pan oedd yn 18 oed. Dim ond dewislen coctel fach oedd ganddo ond roedd yn ddigon i yrru Jonathan drwy sawl swydd mewn bariau adnabyddus nes i gadwyn lletygarwch fawr ddangos diddordeb ynddo, ond cafodd ei siomi pan na ymddangosodd y cyfleoedd.

Gofynnwch am gyngor busnes proffesiynol. Mae cymaint o sefydliadau allan yno a all eich helpu - does dim angen ceisio ymdopi ar eich pen eich hun.

Teimlai Jonathan fod ei ddisgwyliadau i gyd wedi eu sianelu i un cyfeiriad ers yn ifanc. “O’r dechrau yn yr ysgol mae pobl yn dweud wrthych am gael eich TGAU, yna’ch Safon Uwch, yna’ch gradd, a’r cyfan yn arwain at y cyfweliad swydd cyntaf yna pan fydd angen i chi greu argraff dda neu does fawr o siawns gennych...” Cyn i Jonathan sefydlu ei wasanaeth bar symudol roedd angen iddo adael yr hen ffordd o feddwl a dechrau gweld y gallai ddefnyddio ei sgiliau er ei fudd ei hun.

Cefnogodd Cefnogath Business Cymru ymdrechion Jonathan i ailgyfeirio ei ffordd o feddwl drwy ddarparu mentor busnes Cychwyn Busnes i Raddedigion iddo. Cafodd gymorth nid yn unig i lunio cynllun busnes manwl, ond hefyd i fynd i’r afael â’r gweithdrefnau gweinyddol sy’n rhan o’r gwaith o ddechrau cwmni - y ffurflenni i’w llenwi a galwadau ffôn a all fod yn gymaint o rwystr i gyw-entrepreneur.

“I fod yn onest, gwnes i flino ar aros am y dyrchafiad a addawyd i mi. Dechreuais ystyried dechrau fy musnes fy hun - roedd fy Nhad wedi gwneud hynny felly pam na fedrwn i? Ond roedd yn anodd dod dros yr ofn. Y rhwystr mwyaf oedd fi fy hun.”