Josh Dykes
Josh Dykes
Trosolwg:
Catering
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Rwy’n 20 oed ac yn dod o Bontardawe (ger Abertawe) yn Ne Cymru. Es i Ysgol Gyfun Cwmtawe ac yna i Goleg Gorseinon lle dechreuais fy musnes cyntaf ar ôl sylwi bod myfyrwyr coleg wedi diflasu gan eu bod yn rhy hen i ddisgos gyda goleuadau glas ond yn rhy ifanc i fynd i glybiau nos i oedolion dros 18 oed.

Dechreuais fy nghwmni digwyddiadau fy hun gan drefnu digwyddiadau penodol i fyfyrwyr coleg. Roedd y rhain yn llwyddiant mawr, gyda phob tocyn yn cael ei werthu ar gyfer pob digwyddiad. Dechreusom mewn lleoliad a oedd yn dal 250 o bobl cyn symud i adeilad gyda lle i 700. Roedd y tocynnau’n dal i werthu. Roedd unigolion ar draws y wlad yn gofyn i ni ddod â’n partïon yn nes atynt gan eu bod wedi clywed drwy’r cyfryngau cymdeithasol pa mor dda oedden nhw. Felly fe ddechreusom wahodd gwesteion fel cyn gystadleuwyr XFactor a sêr teledu realiti.

Gadewais goleg Gorseinon ac ymunais â’r Academi Entrepreneuriaeth gyntaf un a oedd yn cael ei rhedeg gan Golwg Gŵyr Abertawe. Yna agorais fy ail fusnes, busnes arlwyo digwyddiadau gyda fy nhrelar bwyd fy hun yn gwerthu pasta a sawsiau ffres.  Roedd gen i wasanaeth arlwyo ym mhenwythnos ‘big start up’ Abertawe'r llynedd ac ers hynny rydym wedi arallgyfeirio i ddarparu bwydydd eraill ac rydym yn cynnig gwasanaeth i gleientiaid fel banc HSBC. Rwyf wedi rhoi’r gorau am y tro i gynnal y digwyddiadau gan fy mod wedi cymryd drosodd dŷ tafarn/gwesty yn Aberhonddu, ond rwy’n dal i redeg fy musnes arlwyo.

Rwy’n awyddus iawn i ddenu mwy o bobl ifanc i fyd busnes. Mae fy ffrindiau wastad yn gofyn i mi sut yr ydw i  wedi llwyddo i agor busnesau yn fy oed i, ac am ryw reswm mae ofn ar bobl feddwl hyd yn oed am eu busnes eu hunain, maen nhw’n meddwl na fyddan nhw byth yn gallu ei wneud. Buaswn wrth y modd yn helpu i gymell pobl i gychwyn busnes a pheidio â bod ofn. Nid wyf yn arbenigwr o bell ffordd, ond fel yr wyf wedi ei ddweud, hoffwn gymell ac ysbrydoli a hyd yn oed helpu mwy o bobl ifanc i gychwyn busnesau.