Karim Dastgir
Karim Dastgir
NILC
Trosolwg:
A professionally accredited ICT training and examination centre
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Sir Fynwy

Karim ydw i, sylfaenydd Newport Integrated Learning Centre (NILC), canolfan hyfforddi ac arholi TGCh achrededig. Ar ôl graddio o’r brifysgol gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Busnes a Rhagoriaeth yn fy nghwrs MBA uwchraddedig, gwnes i ymuno a’r byd gwaith ‘go iawn’, ond doeddwn ddim yn gweld hyn yn ysbrydoledig nac yn apelio rhyw lawer. Felly ar ôl llawer o bendroni, gwnes i sylweddoli fy mod yn mwynhau bod yn fos arnaf fi fy hun, a dyna pryd cychwynnodd NILC.

Dros y 9 mis diwethaf dwi wedi ehangu ar yr amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi proffesiynol yr ydym yn eu cynnig, gan dderbyn achrediad gan bartneriaid megis Pearson Vue, CompTIA, Sage, Adobe a Microsoft. Yn ogystal â hyn, oherwydd y galw gan breswylwyr yr ardal leol, dwi hefyd wedi sefydlu cangen buddiant cymunedol ar gyfer y busnes, sydd yn cynnig cyrsiau lefel sylfaenol mewn TGCh a Saesneg.

Yn ddiweddar gwnes i dderbyn grant gan fy nghyngor lleol i helpu gyda datblygiad y busnes. Erbyn hyn dwi yn cyflogi 2 aelod o staff llawn amser a dro 20 o staff llawrydd sydd yn helpu gyda chynnal y cyrsiau hyfforddi yn ddyddiol.

“Os wyt ti yn credu ynddo, gallet ti ei gyflawni!”