Kristian Harris
Kristian Harris
The uTutor Group
Trosolwg:
Facilitating student tutorship and education
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Caerdydd

Fy enw yw Kristian  Harris ac rwy’n entrepreneur 21 oed o Gaerdydd. Yn Ionawr 2013 sefydliais Grŵp uTutor, a’r nod oedd rhoi cyfle i fyfyrwyr prifysgol fod yn diwtoriaid preifat a defnyddio’r wybodaeth yr oedden nhw wedi ei dysgu drwy gydol eu gyrfa addysgol yn ymarferol. Cymerodd 5 mis i sefydlu’r busnes a chefais fy nghwsmer cyntaf ym Mai 2013. Ers hynny mae uTutor wedi datblygu ac mae dros 30 o gwsmeriaid bellach sy’n gwerthu cannoedd o oriau o addysg.

Ym Mawrth 2014, penderfynais ailstrwythuro uTutor Limited yn grŵp a fyddai’n goruchwylio tri brand. Fel rhan o’r strategaeth hon datblygais uTutor Addysg, iNTi Tiwtora a’r Cwmni uTutor a oedd eisoes wedi ei sefydlu. Roedd hyn yn rhoi cyfle i Grŵp uTutor ddod yn fwy amlwg yn y farchnad a marchnata ei gynulleidfa darged yn benodol.  Rwyf wedi dysgu cymaint am redeg fy musnes fy hun ac rwy’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â throsglwyddo fy ngwybodaeth a fy mhrofiad i rai sy’n iau na mi.

“Rwyf wastad wedi bod yn entrepreneur ac rwy’n cael boddhad mawr yn datblygu a chreu busnesau”.