Fy enw yw Luke Gonzales, rwy’n 21 oed ac yn gyfarwyddwr technegol i C&G Mechanical Limited. Rwy’n rhan o sefydliad aelodaeth broffesiynol o’r enw ‘The Institute of Refrigeration’ ac ar hyn o bryd mae gennyf aelodaeth fel technegydd - TMInstR.
Rwy’n llawn cymhelliant ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwasanaethau adeiladu mecanyddol a thrydanol. Rwyf wedi cwblhau prentisiaeth ffurfiol 3 blynedd gyda chyflogwr. Dechreuais yn y gwaelod gan gyrraedd lle’r ydw i heddiw. Mae hyn yn gwneud i mi deimlo’n falch iawn, gan fy mod wedi cyflawni mwy na phrentisiaeth yn unig – rwy’n rhedeg fy musnes fy hun.
Mae C&G Mechanical yn arbenigo mewn systemau Gwresogi, Awyru, Systemau Aer ac Oeri mewn adeiladau masnachol. Rydym yn cynnig dyluniadau cynhwysfawr, gosod, cynnal a gwasanaeth ymateb a chynnal i bob un o’n cleientiaid, wedi ei deilwra ar sail eu hanghenion.
Rwy’n dal i astudio i ddod yn Beiriannydd Siartredig mewn gwasanaethau adeiladu ac ar yr un pryd rwy’n gwneud y gwaith o ddydd i ddydd yn C&G Mechanical.
Dyma rai o’n cleientiaid:
• Frasen Hart Jewellers
• Cyngor Abertawe
• The Glee Club
• BFL Electrical
• Evans Halshaw
• Crocs