Little Quirks Plush
Rhiannon Hâf Quirk
Little Quirks Plush
Trosolwg:
Teganau meddal wedi'u gwneud yn arbennig i annog plant ac oedolion i fod yn greadigol
Sectorau:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Rhanbarth:
Gwynedd

Mae Rhiannon Quirk yn fyfyrwraig yn y drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor sy'n astudio dylunio cynnyrch. Dechreuodd wneud y 'plushies' yn 2013 ac yna agorodd ei siop Etsy yn Nhachwedd 2015.  Cafodd ei hysbrydoli o oed ifanc iawn; dywed fod 'nain wedi fy nysgu sut i wnïo o oed ifanc iawn; Rydw i wastad wedi mwynhau gwneud pethau a chwarae o gwmpas efo gwahanol ddefnyddiau. Fel yr oeddwn yn mynd yn hun, roeddwn yn gwneud llai o wnïo er mwyn astudio dylunio a thechnoleg yn yr ysgol uwchradd, ond yn ystod fy nghyfnod yn y chweched, dechreuais afael ynddi eto fel hobi ac fel ffordd o ymlacio. Ar ôl gorffen plushie, anfonais lun ar-lein, a chael sylwadau cadarnhaol. Pan oedd pobl yn dechrau gofyn i mi os allwn i wneud neu werthu plushie'n arbennig iddyn nhw, sylweddolais y gallwn i wneud busnes ohonynt',

Mae ei chynnyrch i gyd wedi'u gwneud â llaw ac mae modd eu haddasu'n arbennig ar eich cyfer chi, naill ai trwy wahanol gyfuniadau o liwiau neu batrymau, neu drwy'r cwsmeriaid yn gofyn am eitem hollol newydd. Trwy gadw mewn cysylltiad agos â'r cwsmeriaid yn ystod y broses gynhyrchu, mae hi'n sicrhau bod y cynnyrch terfynol yn union fel yr hyn a ofynnwyd amdano.  O ganlyniad, mae amrywiaeth o gynnyrch personol y gellir eu defnyddio i addurno'r cartref neu eu rhoi fel anrheg.  Mae'r elfen o alluogi i gwsmeriaid ddylunio eu plushies eu hunain yn annog plant ac oedolion i fod yn greadigol.

"fy nghynllun pum mlynedd yw berchen ar fy siop fach leol fy hun lle gallaf werthu fy nghynnyrch yn ogystal ag eitemau wedi'u gwneud â llaw gan fusnesau lleol eraill. Credaf ei bod hi'n bwysig nid yn unig i werthu fy nghynnyrch fy hun, ond hefyd helpu busnesau lleol eraill i dyfu."

Datblygodd fusnes Rhiannon fel yr oedd hi'n cael mwy o brofiad; 'Ar y dechrau, roeddwn i'n creu plushies o gymeriadau poblogaidd sy'n bodoli'n barod mewn cartŵns a chomics er mwyn tynnu sylw'r selogion, ond dysgais yn fuan iawn na fyddwn i'n gallu cyfyngu fy hun i'r cymeriadau hyn gan fod hawlfraint ar y cymeriadau ac felly doedd dim modd eu gwerthu. O ganlyniad, penderfynais fynd ar fy nhrywydd fy hun a dylunio fy nghymeriadau fy hun yn lle ail-greu rhai sy'n bodoli eisoes. Roedd yn sialens gorfod gweithio allan sut yn union oedd diffinio fy nghynnyrch a'r farchnad; er enghraifft yr opsiwn o greu cynnyrch gyda steil arbennig ac os oeddwn i eisiau canolbwyntio yn unig ar gynnyrch wedi'u gwneud yn arbennig i bobl. Yn y diwedd, penderfynais fynd gyda'r cynnyrch 'set', (fel fy nhylluanod a cheirw), ân ogystal â gwasanaeth 'plushie' arbennig lle dw i'n cael llun o'r hyn yr ydw i'n seilio'r plushie' arno.

Roedd Rhiannon yn un o dderbynwyr Gwobr Ysgoloriaeth Lloyd Jones. Mae hi'n bwriadu defnyddio arian y wobr i brynu mwy o ddefnyddiau, yn ogystal â thalu am gael gwerthu'i chynnyrch mewn ffeiriau.

Mae hi hefyd yn bwriadu cymryd mantais o'r gweithgareddau menter a gyllidir gan Lywodraeth Cymru yn y brifysgol o flwyddyn nesaf ymlaen i gael mwy o wybodaeth am sut i redeg y busnes a'i helpu i fynnu.

Connect with Rhiannon