Rory Farmer
R A Farmer Productions Ltd
Trosolwg:
Gwneuthurwr Ffilm ac Artist Gweledol ar ei liwt ei hun
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Gwynedd

Mae Rory Farmer yn fyfyriwr ôl-radd mewn Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau o Brifysgol Bangor a manteisiodd ar gyfleoedd i wneud ffilmiau i droi ei ddiddordeb mawr yn yrfa ar ei liwt ei hun.

Fe wnaeth astudio Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau helpu Rory  i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder roedd arno eu hangen i wthio ei hun ymlaen ac roedd cael gafael ar gamerâu i arbrofi â hwy yn allweddol i ddatblygu'r sgiliau hyn.   Drwy gydol ei gyfnod yn y brifysgol manteisiodd Rory ar gyfleoedd i ddod yn fwy medrus drwy weithio ar ffilmiau byrion.  Galluogodd interniaeth gan Wobr Cyflogadwyedd Bangor ef i edrych ar ei sgiliau camera o safbwynt mwy corfforaethol.  ‘Roedd hyn yn ddelfrydol i mi gan iddo roi cyfle i mi ddysgu llawer am fusnes a gweithio ar sgiliau camera yr un pryd.  Roedd hefyd yn wirioneddol hyblyg o ran fy astudiaethau, sy'n ddelfrydol pan mae gennych lwyth o waith.  Rhoddodd hyn gyfle i mi daro i mewn i rai o weithdai Byddwch Fentrus ar weithio ar eich liwt eich hun a rhoddodd y rhain olwg ragorol i mi ar beth mae hynny'n ei olygu.' Ar hyn o bryd mae Rory'n rhan o interniaeth gan Brifysgolion Santander, gan weithio gyda myfyrwyr eraill i greu deunydd gweledol i helpu i hyrwyddo llyfr newydd, 'A Dog Lover's Dream' sydd i'w gyhoeddi gan IGilda.com.

 

Bu cyfle i weithio ar raglen ddogfen gan y BBC yn Corea yn allweddol i Rory. Wrth weld ei enw'n cael ei gydnabod ar y sgrin a gweld ei waith yn ymddangos ar BBC Un rhoddodd hynny hyder a hygrededd ychwanegol iddo.  Dangoswyd ffilmiau o'i eiddo mewn nifer o wyliau ffilm ar hyd a lled y wlad a helpodd i arddangos ei fedrau, ond mae ganddo awydd angerddol i ragori ymhellach yn y proffesiwn.  Meddai ymhellach, 'Roedd fy nhad yn hunangyflogedig ac felly roedd yna gefndir yn hynny o beth.  Ond yn fy achos i'n bersonol dwi ddim yn meddwl fy mod wedi fy nhorri allan yn naturiol i fod yn hunangyflogedig, ond dwi'n gweithio'n galed i roi sylw i hynny drwy weithio'n agos gyda dyn camera sydd wedi rhoi llawer o gyngor da a chyfleoedd gwych i mi.  Dwi'n credu pan mae pobl yn sydyn ddigon yn cymryd diddordeb ynoch chi a'ch gwahodd i ddod i ffilmio eu projectau a'u digwyddiadau rydych yn dechrau sylweddoli ... mi alla i wneud hyn!'

 

Ar sail gweithio i'r BBC roedd Rory'n benderfynol o ddefnyddio hyn fel ei gyfle i gael ei big i mewn ond gan roi ystyriaeth i ofynion ei gwrs yr un pryd.  'Roeddwn yn lwcus fod y gwaith a wnes i yn Corea'n golygu fy mod yn troi o gwmpas nifer o bobl allweddol a chefais fwy o waith ar gorn hynny. Ers hynny dwi wedi medru adeiladu ar hynny ac mae wedi bod yn ffynhonnell incwm rhan-amser gwych ochr yn ochr â'm hastudiaethau.  Mae fy rhaglen ddogfen fer, 'Sofia's Eyes', wedi cael ei dangos mewn pedair gŵyl ffilm ac mae wedi ennill gwobr yn un o'r rheini.  Mae hynny'n sicr yn rhoi hygrededd ychwanegol i chi fel gwneuthurwr ffilm gan eich bod eisiau i gynulleidfa weld eich gwaith a rhannu'r hyn rydych yn ei wneud.  Felly, mae gweld ei fod yn deilwng o fynd i wyliau yn destun balchder mawr i mi.

 

Fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried dechrau ar ei liwt ei hun ydi mynd amdani os oes gennych chi syniad arbennig.  Mae ennill bywoliaeth yn gwneud rhywbeth sydd wrth fy modd yn fraint eithriadol;  alla i ddim ei argymell ddigon!  Dwi'n gobeithio gweithio ar fwy o raglenni dogfen i deledu, cael mwy o fy offer fy hun a gweld lle gallaf fynd ymlaen o hynny!  Dyddiau cynnar iawn ydi hi o hyd, felly mae popeth yn dal mor newydd a chyffrous!' 

 


Cysylltu efo Rory Farmer

Vimeo: https://vimeo.com/roryfarmer