Sarah Hyde
Nappy Go Lucky
Trosolwg:
Cwmni manwerthu ar-lein sy’n gwerthu cewynnau babanod ac ategolion
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Mae gen i ysbryd entrepreneuraidd erioed – yn ddim ond 13 oed roeddwn i’n gwerthu breichledi a wnaed â llaw yn siop lyfrau ffrind fy nhad. Rwyf wedi gweithio mewn llawer o amgylcheddau manwerthu a lletygarwch gwahanol, ond gweithio’n galed i rywun arall a wnaeth i mi benderfynu gweithio ar fy liwt fy hun a sefydlu fy musnes fy hun.

Rheoli man gwely a brecwast yn yr Alban oedd fy musnes cyntaf - penderfynais i symud i Gymru cyn hir a’i reoli o bell, a dyna pryd y bu’n rhaid i mi ailfeddwl fy syniadau busnes yn llwyr. Am fod gennyf deulu ifanc, roedd angen i mi ddod o hyd i rywbeth allwn ei wneud o gartref, felly dechreuais werthu ar-lein.

Dechreuais drwy fasnachu yn y farchnad babanod ar eBay, cyn lansio fy ngwefan fy hun yn 2010, ac ehangu amrediad fy nghynhyrchion yn 2015; ers hynny, rwyf hefyd wedi ychwanegu amrediad o fagiau gan ddylunwyr ac erbyn hyn rwy’n bwriadu ehangu i’r farchnad anifeiliaid anwes.

 

Ffactorau llwyddiant: Meddu ar agwedd gadarnhaol go iawn; penderfyniad cadarn

Gwefan: www.nappygolucky.co.uk