Sharon Green
Valley Education Services
Trosolwg:
Cwmni recriwtio sy’n cyflenwi athrawon cyflenwi a staff cymorth dysgu
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Merthyr Tudful

 

Pan ddechreuodd plant Sharon dyfu ychydig yn hy'n, penderfynodd ddechrau gradd Rheoli Busnes. Roedd cefndir ganddi eisoes mewn addysg, ar ôl gweithio’n rhan amser mewn sawl ysgol leol, felly ar ôl graddio cafodd Sharon waith gyda chwmni recriwtio ym maes addysg. Er ei fod yn gweddu iddi ar y cychwyn, dros amser dechreuodd sylweddoli nad oedd llawer o gyfleoedd i ddatblygu:

Cadwch eich amcanion busnes a phersonol hirdymor mewn cof wrth ddechrau arni. Meddyliwch am sut y byddwch yn teimlo am bob penderfyniad ymhen deng mlynedd.

Sharon Green - Valley Education Services

I Sharon, nid oedd dechrau ei chwmni ei hun yn golygu dysgu rhywbeth o’r newydd. Yn hytrach, manteisiodd ar y profiad a enillodd yn recriwtio ym maes addysg a lluniodd ei model busnes ei hun ar gyfer cyflenwi athrawon cyflenwi a chynorthwywyr cymorth dysgui ysgolion yn rhanbarth y Cymoedd.

Er y teimlai Sharon yn fodlon o wybod ei bod yn gwneud defnydd da o’i chraffter busnes, gwelodd Sharon yn gyflym fod digon i’w ddysgu o hyd. Cysylltodd â Chefnogaeth Busnes Cymru a rhoddwyd ei mentor busnes Cychwyn Busnes i Raddedigion ei hun iddi a roddodd gymorth iddi â llunio rhagolygon ariannol a rhoi sylwedd i’w chynllun busnes, a lluniodd y cyfan rhan o gais llwyddiannus am fwrsari Cychwyn Busnes i Raddedigion.

"Teimlwn nad oeddwn yn cyflawni fy mhotensial nac yn defnyddio’r holl sgiliau a enillais yn ystod fy ngradd. Roeddwn wedi gweithio’n galed ac wedi dysgu cymaint am redeg busnes - roedd hi’n hen bryd i mi roi fy holl wybodaeth ar waith!"