Sonia Evelyn
Evelyn Products
Trosolwg:
Manwerthu cynhyrchion gwallt naturiol ar gyfer gwallt affro
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Caerdydd

Roedd Sonia wedi bod yn creu ei chynnyrch naturiol ar gyfer gwallt affro ers ddechreuodd ei merch dioddef o ecsema ac mi roedd ond yn gallu defnyddio hufennu a siampŵ mwyaf addfwyn. Ni welodd Sonia y potensial masnachol nes i ffrind ei awgrymu. “Fe ddyluniodd yr un ffrind wefan i mi ac yn fuan roedd pobl ar draws y byd yn cysylltu a mi. Yna fe ddaeth y realiti i mi; roedd gen i fusnes fy hunan”.

Roedd llwyddiant sydyn Cynnyrch Evelyn y deillio oddi ar chwant Sonia i gwrdd ag anghenion go iawn ei chwsmeriaid, ac felly yn ateb gofynion pobl a oedd  wedi cael profiadau gwael gyda nwyddau gwallt affro anaddas. “Nid dim ond oherwydd fy merch i; roeddwn i wedi cael ymatebion gwael a achosodd i’n ngwallt i gwympo allan. Mi wnes i lot o ymchwil a darganfyddais i fod hyn yn stori gyffredin.” Bwriad sonia oedd  i ateb wir angen ei chwsmeriaid drwy cyfuno olew naturiol gyda chynnyrch a sail dwr, ac felly’n cael gwared ar unrhyw cynhwysion annaturiol sy’n gallu creu niwed i wallt affro.

Gyda’i chynllun masnachol addawol, fe aeth Sonia i Gymorth Busnes Cymru. Derbyniodd hi gymorth nid yn unig oddi wrth mentor busnes Ol-raddwyr i greu cynllun busnes, ond mi elwodd hi hefyd oddi wrth gyfleon i gyflwyno i sawl buddsoddwr. “Roedd hyn yn gyfle anhygoel. Hyd at y pwynt hwnnw roedd i mor benderfynol o ddechrau’r busnes roeddwn i wedi defnyddio’n carden credyd a’n cynilion i brynu popeth”.

Fe ddarganfyddodd Sonia bod y gweithdai Ol-raddwyr yn llesol tu hwnt, yn enwedig yr rhai a oedd yn canolbwyntio ar ochr dechnegol o ddechrau busnes. “Roedd gen i lawer o frwdfrydedd ond dim profiad”. Mae Sonia’n esbonio pe nai bai hi wedi derbyn y cymorth yma, mi fyddai wedi bod yn anodd i ddelio gyda’r chwaraewyr mawr mewn diwydiant mor gystadleuol.