Tiffany Jay Villiers
Local Roots
Trosolwg:
Charity aimed at fostering nature and community
Sectorau:
Ffermio a choedwigaeth
Rhanbarth:
Powys

Dwi'n 27 mlwydd oed, dwi'n byw yn Llandrindod gyda fy mhartner mewn bywyd a busnes, Matt. Symudais i Gymru haf diwethaf ar ôl byw dramor ers oeddwn i'n saith oed. Gwnes i gyfarfod â Matt wrth weithio i gwmni Byw yn y Gwyllt i blant a symudais i Landrindod i setlo i lawr. Daeth yn amlwg yn weddol gyflym, oherwydd diffyg cyfleoedd yn fy maes gwaith (Ysgol Goedwig / Blynyddoedd Cynnar) byddai'n rhaid i mi greu fy swydd fy hun. 

Fis Hydref y llynedd gwnes i gasglu grŵp o bobl hyfryd â'i gilydd i ffurfio pwyllgor ar gyfer sefydliad elusennol bach o'r enw Local Roots. Ein nod yw "meithrin cariad tuag at natur a'r gymuned." Gwnaeth y strwythur hwn ein galluogi i wneud cais am grant i brynu cyfarpar a chostau cychwynnol eraill sylfaenol, gan ganiatáu i ni ddechrau rhedeg sesiynau Ysgol Goedwig. Naw mis yn ddiweddarach, mae ein busnes bach yn mynd yn dda iawn. Mae ein Clwb Ar Ôl Ysgol yn llawn, ac mae yna blant ar y rhestr aros hyd yn oed! Hyd yma rydym wedi darparu sesiynau i ysgolion lleol yn ogystal â meithrinfeydd ac addysgwyr yn y cartref. Gwnaethom fynd yn brysur iawn yn gyflym iawn, a bu'n rhaid i Matt roi'r gorau i'w swydd amser llawn a rhoi help ychwanegol i mi!

Mae Local Roots yn mynd yn dda ond yn sicr ni chafodd ei wireddu heb ei gyfran deg o rwystrau a gwaith caled. Yn y dechrau, gwnes i lawer o oriau o ymchwil, mynychais lawer iawn o gyfarfodydd, neidiais dros rwystrau a bu llawer o brofi a methu. Mis nesaf bydd ein pwyllgor yn chwalu, sy'n golygu y bydd Local Roots yn troi yn bartneriaeth fusnes rhwng fi a Matt. Ond fe ddaw eto haul ar fryn. Bydd y strwythur newydd yn caniatáu i ni gael y rhyddid i fod yn fwy hyblyg a phroffidiol yn y tymor hir. 

Yn ogystal â Local Roots dwi hefyd yn dilyn brwdfrydedd arall: gofal croen naturiol.  Gyda ffrind, rydym wedi bod yn datblygu cyfres o gynnyrch gofal croen naturiol i'w stocio mewn siopau yn ogystal â'n "Fresh Face Deli" symudol sy'n cynnig paciau wyneb, sera a sgwrfeydd ffres, wedi'u gwneud yn ôl y galw, wedi'u cymysgu a'u potelu yn y fan a'r lle. Enw ein brand yw 'ku.tIs (Lladin ar gyfer croen ac wedi'i sillafu yn ffonetig yn Saesneg). Rydym yn ymgymryd ag asesiadau diogelwch fesul tipyn, yn cynilo ychydig bach o arian yma ac acw i fuddsoddi mewn labeli, pecynnu ac yswiriant ar gyfer ein menter busnes newydd. Mae hi'n gynnar iawn i 'ku.tIs ar hyn o bryd ac rydym yn dechrau profi'r farchnad yn unig mewn digwyddiadau a marchnadoedd lleol, ond hyd yma rydym yn cael ymateb gwych.