Zoe Binning
Weddings by Zoë Ltd.
Trosolwg:
Cynllunudd priodasau a digwyddiadau proffesiynol
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Caerdydd

Cefndir mewn manwerthu sydd gen i.  Enillais i radd mewn Rheoli Manwerthu a gweithiais i am nifer o flynyddoedd ym maes dylunio manwerthu a rheoli prosiectau, marchnata a chynllunio gofodau.

Ar ôl cael plant, roeddwn i am weithio o gartref a defnyddio fy sgiliau mewn diwydiant gwahanol – felly o ganlyniad i gynllunio fy mhriodas fy hun a rhai fy frindiau a’m teulu, dechreuais i ffurfio syniad newydd.

Gan gydnabod bwlch yn y farchnad, lansiais fy musnes fy hun a ganwyd Weddings By Zoë Ltd. – erbyn hyn rwy’n trefnu priodasau a digwyddiadau ledled De Cymru a De-orllewin Lloegr ac mae gen i gangen lwyddiannus y busnes sy’n rheoli lleoliadau, gan gefnogi lleoliadau priodi lleol drwy redeg priodasau ar eu rhan.

Oherwydd lefel uwch y galw am addurniadau anghyffredin a phrydferth ar gyfer priodasau a digwyddiadau corfforaethol, rwyf bellach wedi creu busnes cynllunio digwyddiadau corfforaethol gyda phartner busnes o’r enw Serayah Bespoke Event Styling, sy’n unigryw yng Nghymru, gan gyflwyno arddulliau décor sydd heb eu gweld yng Nghymru o’r blaen.

 

Ffactorau Llwyddiant: Cynnal busnes ansawdd uchel digyfffelyb, wedi’i yrru gan wasanaeth