Rheolau Ymgeisio'r Gystadleuaeth - Y Criw Mentrus

Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant rhwng 5 ac 11 oed yng Nghymru.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch ymgais ydy Mai 27 2022 am 4:00 p.m.

Dylid cyflwyno pob ymgais yn defnyddio’r ffurflen gais ar-lein. Neu, fel arall gallwch ebostio yn helo@ycriwmentrus.com

Trefnir y gystadleuaeth hon gan Prospects Cazbah ar ran Llywodraeth Cymru. Mae ’Ni’ yn cyfeirio at y ‘Cazbah Prospects. Mae ’Chi’ yn cyfeirio at y cystadleuwyr.

Trwy gystadlu, rydych yn cytuno â holl delerau ac amodau’r gystadleuaeth ac yn derbyn bod penderfyniadau Prospects Cazbah ac unrhyw feirniaid a benodir gan Prospects Cazbah yn derfynol a gorfodol ymhob agwedd.

  • Ni ellir derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ymgais sydd yn mynd ar goll neu a gamosodir ac ni ellir dychwelyd unrhyw ymgais.
  • Un o’r amodau cystadlu yw bod rhaid i bob un sy’n cymryd rhan sicrhau’r caniatâd priodol i gael tynnu eu lluniau, eu ffilmio neu eu recordio ar gyfer y wobr neu gyflwyno’r wobr
  • Mae Llywodraeth Cymru ac unrhyw sefydliad sy’n gysylltiedig â’r gwobrau yn cadw’r hawl i ddefnyddio’r cyfryw luniau, ffilmiau neu recordiadau at bwrpas hyrwyddo.

Drwy gystadlu, rydych yn cytuno na fyddwch:

  • Yn cyflwyno unrhyw ddeunydd nad yw’n waith y disgyblion eu hunain.
  • Yn cyflwyno celwydd neu anwiredd a allai niweidio unrhyw drydydd parti neu’n tramgwyddo yn eu herbyn.
  • Yn cyflwyno unrhyw ddeunydd sy’n anghyfreithlon, anweddus neu fel arall yn amhriodol.

 

Mae Prospects Cazbah yn cadw’r hawl i ddiarddel unrhyw gystadleuydd sy’n methu â chydymffurfio â thelerau ac amodau’r gystadleuaeth yn ôl eu disgresiwn eu hun yn unig.

Bydd yr holl ddeunydd a gyflwynir neu a gynhyrchir fel rhan o’r gystadleuaeth hon yn cael ei drwyddedu i Lywodraeth Cymru ar drwydded fyd eang, ddi-freindal, heb gyfyngiad am byth, yn unol â’r telerau a’r amodau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i ddefnyddio’r testun, y delweddau a/neu’r recordiadau yn rhannol neu yn gyfan fel y gwelant yn briodol (efallai heb fod yn gysylltiedig â’r gystadleuaeth hon), gan gynnwys y rhyngrwyd, heb ganiatâd y cystadleuydd na thalu am y cyfryw ddefnydd.

Dim ond pan fydd hi’n angenrheidiol ar gyfer y gystadleuaeth fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio manylion personol yn amodol bob amser ar ddarpariaethau Ddeddf Diogelu Data 1988

 

Cynhelir y beirniadu gan banel. Bydd eu penderfyniad yn derfynol.

Ni roddir arian yn lle gwobrau nad oes arian ymghlwm iddynt

Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i newid manylion y gwobrau ar unrhyw adeg. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar ddiwedd Gorffennaf 2022.

Rhoddir y manylion ar y wefan hon.

Ni ellir cychwyn trafodaeth ysgrifenedig na thrwy gyfweliad ar unrhyw fater yn ymwneud â’r gystadleuaeth hon.

Efallai y bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi enwau unigolion gyda’r deunyddiau fydd yn cael eu dangos.

Rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio telerau ac amodau’r gystadleuaeth hon ar unrhyw adeg. Os gwnawn hynny, byddwn yn cyhoeddi’r newidiadau i’r telerau ac amodau ac/neu delerau ac amodau penodol ar y dudalen hon.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau athelo@ycriwmentrus.com