Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid

Mae Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu Economaidd yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru i dyfu’n heconomi yn gynhwysol a lledaenu cyfleoedd a hybu llesiant.  Wrth gyfarparu unigolion i newid y byd, mae’r cynllun yn amlinellu ymrwymiad i ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru, i gyflawni mwy o ddechreuadau busnes a mwy o fentrau sy’n cael eu gyrru gan arloesiad. 

Mae cynllun gweithredu Ffyniant i Bawb: Addysg yng Nghymru (Ein cenhadaeth genedlaethol) yn canolbwyntio ar godi safonau i bawb, gan leihau’r bwlch mewn cyrhaeddiad, a chyflawni system addysg sy’n ffynhonnell balchder cenedlaethol a hyder cyhoeddus.

Dogfennau perthnasol:

Cynllun Gweithredu Economaidd
Cynllun Gweithredu Cyflogadwyedd
Cynllun Gweithredu Addysg

Grŵp gyda'u gwobr

Mae’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES) 2010-15 yn cynnig gweledigaeth gyfredol a strwythur i roi giliau ac agweddau entrepreneuraidd i bobl ifanc 5-25 oed i godi eu dyheadau, er mwyn iddyn nhw gael cyflawni eu potensial beth bynnag maen nhw’n dewis ei wneud.  Pobl ifanc yw’r prif ffocws o hyd gyda rolau hanfodol i addysg, busnes a’r gymuned i’w cefnogi.

Ein gweledigaeth
Datblygu a meithrin pobl ifanc entrepreneuraidd, hunangynhwysol ym mhob cymuned yng Nghymru, a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at lwyddiant economaidd a chymdeithasol.

Themâu’r Strategaeth yw ffocws rhaglen gyflawni Llywodraeth Cymru 2015-2020 o hyd:
1.      Ymgysylltu: Hyrwyddo gwerth entrepreneuriaeth i greu cyfleoedd a datblygu pobl ifanc
2.      Grymuso: Cynnig cyfleoedd dysgu entrepreneuraidd i bobl ifanc
3.      Cyfarparu: Cefnogi pobl ifanc i greu a thyfu busnesau

Plant ysgol y tu allan i'r Senedd

Dolenni allweddol:

Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid 2010-15
Lawrlwythwch Adroddiad Blynyddol y Strategaeth 2014-15 
Dogfen Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid 2004

Model y Strategaeth o Ymddygiadau Entrepreneuraidd:  ACPT
Nid rhywbeth arbennig mae ychydig o bobl yn meddu arni o’u geni yw entrepreneuriaeth. Mae entrepreneuriaeth yn ffordd o feddwl sy’n gallu cael ei feithrin.

How Big Ideas Wales can help partners to support young people