Canfyddwch botensial eich dyfodol. Dyw’r gorffennol ddim yn eich cyfyngu
Rhai pwyntiau i feddwl amdanyn nhw...
Ble bynnag ydych chi ar eich taith fusnes, cadwch i’r llwybr gyda’n cynghorion defnyddiol.
Argraffwch y rhestr yma a’i rhoi rhywle a welwch chi bob dydd, fel oergell y gegin, i gadw’ch cymhelliant.
- Darganfydda beth sy'n dy gymell
- Paid â bod yn elyn i ti dy hun! Falle bydd partneriaid, cydweithwyr a ffrindiau’n teimlo dan fygythiad, ond y rhwystr mwyaf i newid yw dy agwedd di - nid eu hagwedd nhw
- Peidiwch â thanbrisio’ch hun ond mynnwch gredu yn eich dyfodol
Allwch chi ddim wneud popeth a bod ymhob man, felly dysgwch eich cyfyngiadau
Mae’n dda gwneud newidiadau, ond byddwch yn barod am heriau posib i’ch busnes hefyd
- Gosoda gyfres o nodau tymor byr syml i ti dy hun yn hytrach na mynd am y jacpot o'r cychwyn cyntaf
Cadwch yn bositif. Mae adegau anterth ac isel yn anochel, dyna beth sy’n ei wneud mor fuddiol!
Cadwch mewn cof eich amcanion a’r nodau rydych chi wedi eu cyrraedd. Cofiwch wobrwyo’ch hun am y cyflawniadau hynny!
Cadwch eich ymroddiad. Cymer y cam cyntaf yn awr – mae taith o fil o filltiroedd yn cychwyn gyda’r filltir gyntaf.
Beth sy'n dy ysgogi?
Gall hyd yn oed y rhai ohonom sydd wedi’n cymell fwyaf deimlo’n ddi-gymhelliant ar brydiau, ond bydd gweithio ar rhywbeth wyt ti'n ei fwynhau'n ychwangeu rheolaeth a chanolbwynt i'r hyn rwyt ti'n ei wneud.
Os byddi’n dewis swydd wyt ti’n ei charu, ni fydd rhaid i ti weithio am ddiwrnod yn dy fywyd.
Ein gwerthoedd sy'n dweud wrthym beth sy’n bwysig i ni, y math o berson yr ydym eisiau bod a’r nodau rydym eisiau eu cyflawni.
Nid ydym bob amser yn ymwybodol o'r hyn rydym ni wir yn ddyheu amdano. Efallai y byddwn yn meddwl mai llwyddiant ariannol ydym ni’n ei ddyheu, ond mewn gwirionedd gwell perthynas gyda phartner, mwy o amser gyda'r plant neu fwy o antur yn ein bywydau sy’n mynd â’n bryd. Yma gall ein teimladau helpu - os nad ydym wir yn mwynhau bywyd, efallai nad yw rhywbeth yn hollol iawn.
Bydd creu rhestr o dy werthoedd yn dy helpu i ganolbwyntio dy fywyd o gwmpas yr hyn sy'n bwysig i ti a dy gredoau.
Mae deall yr hyn wyt ti wir yn boeni amdano yn hynod o bwysig pan fyddi di’n ymgymryd â her newydd a fydd yn brawf go iawn i ti, fel cychwyn busnes.
Gofynna i dy hun...
Pam ydy dechrau fy musnes fu hun yn bwysig i mi?
Ysgrifenna beth bynnag a ddaw i dy feddwl – boddhad mewn swydd, cydnabyddiaeth gan eraill, gwobrau ariannol. Bydd yn canolbwyntio dy feddwl.