Robert Christopher Brooks
Finding Nature
In a nutshell:
Darparu teithiau addysgol sy'n canolbwyntio ar fywyd gwyllt
Sectors:
Ffermio a choedwigaeth
Region:
Gwynedd

Astudiais sŵoleg fertebratau'r morol oherwydd fy mod yn caru siarcod, yr unig broblem oedd fy mod yn gwybod nad oes llawer o swyddi sydd angen biolegwyr morol ac ni ellir gwneud llawer o arian yn y maes. Yn wir, yn ystod yr wythnos groeso yn y brifysgol, rwy'n cofio un o'r darlithoedd yn dweud; ‘Os ydych wedi dewis Bioleg Forol i wneud llawer o arian yna rydych yn yr ysgol anghywir'. Arhosodd hyn gyda mi dros y blynyddoedd ac fel roeddwn yn dechrau fy nhraethawd hir yn y drydedd flwyddyn roeddwn yn gwybod bod rhaid i mi ddechrau meddwl am y dyfodol; gorau oll os byddwn yn llwyddo i brofi bod fy narlithydd yn anghywir.

 

Fel rhan o fy nhraethawd hir yn y drydedd flwyddyn ar gyfer y cwrs Sŵoleg, treuliais lawer o amser yn ymchwilio i gynefinoedd y Morgi Mawr Gwyn a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar eu dosbarthiad. Wrth wneud hynny meddyliais, 'Oni fyddai’n syniad gwych pe bawn yn gallu rhoi mynediad i bobl i'r math yma o wybodaeth a fyddai'n dweud wrthynt lle a phryd mae'r lleoedd gorau i weld eu hoff anifeiliaid?'

 

Dros amser, cefais y syniad 'dod o hyd i natur'; gyda'r genhadaeth syml ein bod eisiau cysylltu ein cwsmeriaid â natur mewn ffordd gwbl unigryw a di-dor. Hyd yma, mae'r cwmnïau mwyaf sy'n gwerthu teithiau a phrofiadau'n ymwneud ag anifeiliaid yn gwneud hynny trwy bwysleisio eu hamserlen ochr yn ochr â rhestr enfawr o weithgareddau eraill sydd heb unrhyw gysylltiad. Nid oes unrhyw gwmni arall wedi marchnata bywyd gwyllt fel y lle i fynd.  Nid ydym yn gwerthu teithiau a phrofiadau heb unrhyw wybodaeth, yn hytrach, rydym yn datblygu llwyfan sy'n dysgu ac ysbrydoli pobl fel eu bod eisiau mynd allan a phrofi natur drostynt eu hunain. Trwy ddatblygu cysylltiadau â busnesau bach, rydym yn bwriadu pontio'r bwlch rhwng 'darganfod' ac 'archwilio' i'n cwsmeriaid fel y byddwn yn datblygu i fod yn gwmni bywyd gwyllt gyda'r gorau yn y byd. Sylweddolais fod lle i hyn yn y farchnad a phenderfynais ei roi gerbron wrth gystadlu yng Ngwobrau Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander ac roeddwn yn ffodus i gael cyflwyno'r syniad i'r Is-ganghellor.

 

Er na lwyddais i gyrraedd cam nesaf y gystadleuaeth, enillais fwrsariaeth o £500 gan Brifysgol Bangor am fy ymdrechion. Bu'n gymorth aruthrol gan fy ngalluogi i gomisiynu strategaeth farchnad fanwl yn ogystal â thalu ffrindiau am helpu i ysgrifennu cynnwys y wefan.
 

Rwyf hefyd wedi bod mewn nifer o weithdai yn y brifysgol ar weithio ar eich liwt eich hun, marchnata a brandio a datblygu busnes, a gynhaliwyd gan bobl frwdfrydig iawn sy'n llwyddo i ysbrydoli.

 

Mae'r syniad wedi esblygu o'r syniad gwreiddiol gyda chymorth mentora busnes gan Syniadau Mawr Cymru. Bu'r mentor yn gymorth mawr trwy drafod ffrydiau incwm posibl a ffyrdd niferus o ariannu'r llwyfan. Erbyn hyn mae 'Finding Nature' wedi datblygu i fod yn fusnes llawn amser ac rwy'n gweithio gyda fy nghefnder sy'n defnyddio ei arbenigedd mewn rhaglennu'r we i ddatblygu gwefan hardd. 

 

Mae ein cynlluniau'n uchelgeisiol iawn, rydym eisiau cael model dibynadwy sy'n cynhyrchu refeniw sylweddol yn y DU. Unwaith y bydd wedi ei berffeithio rydym eisiau cyflwyno ein llwyfan i nifer o wledydd a datblygu partneriaethau teithio gyda chwmnïau awyrennau yn ystod y broses. Yn y pen draw, rydym eisiau i bobl allu defnyddio ein llwyfan i fynd allan a phrofi unrhyw rywogaethau o fywyd gwyllt unrhyw le yn y byd. Mae meddwl am ein gwerthiant cyntaf a bod yn gwbl hunangynhaliol yn y dyfodol yn rhoi llawer o gyffro annisgrifiadwy i mi.

 


Cysylltu gyda Finding Nature