Cymorth arall
Yn ogystal â'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, mae nifer o sefydliadau trydydd parti eraill sy’n cynnig gwybodaeth am faterion ac ymholiadau ynghylch Brexit, gan gynnwys:
Ffederasiwn Busnesau Bach
Cyfres pedair rhan o ymchwil am Brexit sy’n canolbwyntio ar fasnach tramor, mynediad at lafur a sgiliau, Cyllid yr UE, a dyfodol rheoleiddio
Siambrau Masnach Prydain
Rhestr Wirio Brexit i Fusnesau a’r ymchwil diweddaraf am Brexit
Pecyn Cymorth ar Brexit
Offeryn Hunanarchwilio ar gyfer Mewnforio ac Allforio Nwyddau
Consortiwm Manwerthu Prydain
Cyfres o daflenni gwybodaeth ac adroddiadau ar gyfer y diwydiant manwerthu, gan gynnwys Cynllun Tariffau
Prifysgol Caerdydd
Blog Prifysgol Caerdydd sy’n cynnwys cyfraniadau gan amrywiaeth o academyddion a meddylwyr blaengar
Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI)
Dadansoddiad fesul sector o farn busnesau ar Brexit ac adroddiadau dadansoddi a dealltwriaeth
GOV.UK
Cyngor Llywodraeth y DU i fusnesau ar sut i baratoi os bydd y DU yn gadael yr UE heb unrhyw gytundeb
Cyllid a Thollau Ei Mawrhyddi – GOV.UK
Cael trafferth talu eich bil treth? Cysylltwch â'u Gwasanaeth Cymorth Talu os oes angen mwy o amser i dalu dyledion treth sy'n bodoli eisoes. Os na allwch fforddio talu eich bil treth i gyd ar unwaith, gall HMRC gytuno i chi dalu fesul rhandaliadau
Parliament.uk
Cyfle i ddarllen ymchwil a dadansoddiadau o lyfrgelloedd a phwyllgorau’r Senedd ar sut bydd gadael yr UE yn effeithio ar wahanol feysydd polisi yn y DU
Price Waterhouse Coopers
Cyfres o ddogfennau a phodlediadau i helpu busnesau i baratoi ar gyfer Brexit
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyfres o dudalennau Hyb Iechyd Brexit sy’n mynd i’r afael ag amrywiaeth helaeth o bynciau, gan gynnwys Brexit ac Amaethyddiaeth, Brexit a gwaith, Brexit a masnach
KPMG – Ymdopi â Brexit
Edrychwch ar yr adnoddau Deall Brexit a Ymdopi â Brexit i weld canllawiau ar beth i’w wneud nesaf
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Gwybodaeth a chyhoeddiadau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Prifysgol Birmingham
Effeithiau Economaidd Brexit ar y DU, ei Rhanbarthau, ei Dinasoedd a’i Sectorau. Yn cael ei gyllido gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, dechreuodd y prosiect hwn ym mis Ebrill 2017 ac mae’n rhan o gyfres o brosiectau i gefnogi’r fenter Y DU mewn Ewrop Sy’n Newid