Mae llawer o ansicrwydd ynghylch beth yn union fydd Brexit yn ei olygu i fasnach. Ond, rywsut neu’i gilydd, bydd yn rhaid i fusnesau ddelio ag amgylchiadau newydd yn y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd angen i gwmnïau weithio mewn ffordd strategol ar eu busnes a chynllunio ymlaen i sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ac yn lleihau’r risgiau a’r bregusrwydd sy’n deillio o Brexit. Bydd datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth gadarn yn hanfodol er mwyn cael y weledigaeth a’r argyhoeddiad sy’n ofynnol i ganfod eich ffordd drwy’r dyfroedd newydd.
Bydd pob busnes yn wynebu gwahanol heriau a bydd cyfleoedd a bygythiadau Brexit yn unigryw i bob un ohonynt. Bydd paratoi nawr am yr hyn a allai fod o’ch blaen, ac ystyried goblygiadau Brexit ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd yn helpu i sicrhau eich bod chi’n barod i weithredu ar unwaith ac addasu’n gyflym i sefyllfa sy’n newid. Gallai newid yn eich strategaeth fusnes gynnwys unrhyw beth o arallgyfeirio eich cadwyn gyflenwi, targedu marchnadoedd rhyngwladol newydd neu dorri tir newydd gyda’r hyn rydych chi’n ei gynnig er mwyn creu mantais gystadleuol.
Cyfleoedd a Heriau Posibl
Cynllunio ar gyfer risgiau ac ansicrwydd
Bydd nodi risgiau a dechrau paratoi cynlluniau wrth gefn nawr yn ei gwneud hi’n haws i chi roi cynlluniau ar waith pan fydd manylion y cytundeb terfynol ar gael. Dylai busnesau ystyried cael rhywun i fod yn gyfrifol am reoli hyn a’r effaith ar y sefydliad. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn llywio’r busnes drwy gyfnod o ansicrwydd. Gallai perchennog y busnes ysgwyddo’r rôl hon os ydych chi’n fusnes bach. Mewn busnes mwy, gallai fod yn rôl i uwch reolwr neu weithiwr proffesiynol adnoddau dynol sydd ag awdurdod i wneud penderfyniadau ac sy’n adnabyddus yn y sefydliad.
Newid i gyfleoedd yn y farchnad
Gallai Brexit olygu marchnadoedd newydd ac amgen ar gyfer allforio mewn marchnadoedd rhyngwladol a/neu lai o gystadleuaeth ym marchnadoedd yr UE. Er mwyn paratoi ar gyfer y sefyllfa hon sy’n newid, dylech fonitro’r amgylchedd busnes a nodi'r cyfleoedd posibl i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ac arallgyfeirio marchnadoedd. Mae’n bwysig cael gwell dealltwriaeth o’ch cystadleuaeth ar hyn o bryd nawr a dechrau datblygu cynigion gwahanol neu gryfhau cynigion presennol a meddwl lle gallech chi leihau costau a gwellau arbedion effeithlonrwydd.
Gwella arbedion effeithlonrwydd
Gallai effaith bosibl Brexit ar y busnes olygu rhagor o bwysau ar faint yr elw. Gall cwmnïau ystyried arloesi, gwella arbedion effeithiolrwydd a lleihau costau eu prosesau cynhyrchu i wella arbedion effeithlonrwydd er mwyn cynnal neu hyd yn oed wella proffidioldeb. Dyma un o’r mesurau y gall busnes eu cymryd i gynllunio ar gyfer effeithiau heriol posibl Brexit, ond mae’n gwneud synnwyr busnes beth bynnag, heb ystyried Brexit.
Ystwythder y gadwyn gyflenwi
Yn dibynnu ar y cytundeb ar gyfer Brexit, bydd yn rhaid i fusnesau sicrhau eu bod yn gallu ymateb yn gyflym i unrhyw newidiadau mewn costau yn y gadwyn gyflenwi ac oedi posibl a allai effeithio ar lif cyflenwadau. Mae’n bosibl y bydd busnesau nad ydynt yn mewnforio’n uniongyrchol o’r UE yn gweld bod hyn wedi cael effaith niweidiol ar gyflenwyr allweddol. Mae’n bwysig deall unrhyw fregusrwydd posibl yn eich cadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau na fydd unrhyw effaith ar eich gweithrediadau busnes. Archwiliwch gysylltiadau â chontractau cyflenwi er mwyn deall eich cyflenwyr yn well a nodi unrhyw feysydd allweddol a allai fod mewn perygl yn dilyn newidiadau Brexit. Nodwch opsiynau i gryfhau’r rhain neu ystyriwch arallgyfeirio cyflenwyr er mwyn lliniaru’r risgiau.
PETHAU I’W GWNEUD: Paratoi ar gyfer Dim Cytundeb
Cyffredinol
- Dylech asesu pa mor barod yw eich busnes gan ddefnyddio Pecyn Cymorth ar Brexit Busnes Cymru
- Cofrestrwch i gael Newyddlen Busnes Cymru
- Ewch i wefan Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru
- Cofrestrwch i gael diweddariadau am Ymadael â’r UE gan CThEM
- Darllenwch wybodaeth ddiweddaraf yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- Chwiliwch am gontractau newydd ac hysbysebwch eich gwasanaethau ar wefan GwerthwchiGymru
Os ydych chi’n mewnforio neu’n allforio
- Gwyliwch gweminar awr o hyd CThEM am 5 maes allweddol rhaid i fusnesau’r DU fod yn ymwybodol ohono i ddal i fasnachu nwyddau pan fydd y DU yn gadael yr UE
- Darllenwch gyhoeddiadau Llywodraeth y DU ar Fasnachu gyda’r UE
- Os ydych yn fewnforiwr neu'n allforiwr, rhaid bod gennych rif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) i barhau i fasnachu â'r UE. Os nad oes gennych chi'ch un chi eisoes, gallwch gael rhif EORI ar GOV.UK. Dim ond y cam cyntaf i barhau i fewnforio neu allforio yw cael rhif EORI. Dilynwch y prosesau mewnforio ac allforio hyn i fasnachu gyda gwledydd yr UE a thu allan i'r UE
Os ydych chi’n trosglwyddo data personol
- Dilynwch ‘6 cham i’w cymryd’ Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
- Ewch i’r dudalen defnyddio data personol ar ôl Brexit
Os ydych chi’n darparu gwasanaethau neu’n gweithredu yn yr UE
- Cadarnhewch beth yw’r rheoliadau ar gyfer gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a gwledydd Ardal Masnach Rydd Ewrop, yn cynnwys newidiadau i ofynion visa
Os ydych chi’n cyflogi dinasyddion o’r UE
- Helpwch eich staff o’r UE i gael gafael ar y ddogfennaeth ofynnol
- Ystyriwch wella sgiliau eich gweithlu – mae cymorth ar gael ar y Porth Sgiliau
Os ydych chi’n gwerthu nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu
- Gwiriwch y newidiadau rheoleiddiol ar gyfer marchnadoedd y DU a’r UE, yn cynnwys labelu, cymeradwyo a phrofi
Os ydych chi’n ymwneud ag eiddo deallusol neu hawlfraint
- Cydymffurfiwch â’r newidiadau i eiddo deallusol
Mae Llywodraeth y DU wedi llunio rhestr lawn o wybodaeth ymadael â’r UE i fusnesau ac mae’r rhestr honno ar gael yma.
Digwyddiadau Strategaethau Busnes
Gweler yr holl ddigwyddiadau