Cyfeiriadur busnes
Rydym yn gwahodd busnesau i hysbysebu yng Nghyfeiriadur Busnesau Cymru i hyrwyddo eu nwyddau, eu gwasanaethau a'u manylion i fusnesau eraill ac i gwsmeriaid.
Defnyddiwch ein cyfeiriadur i chwilio'n gyflym am fusnes yng Nghymru yn ôl ei enw neu gwnewch chwiliad uwch drwy ddefnyddio cyfuniad o feini prawf.
Dim ond yn ddiweddar y lansiwyd y Cyfeiriadur, a chyfran fach iawn o fusnesau yng Nghymru sydd ynddo; bydd ei faint a'r defnydd ohono'n tyfu wrth inni annog rhagor o fusnesau i ymuno. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi nac yn cadarnhau bod cynnwys y wefan hon yn gywir nac yn ddibynadwy. Darllenwch y Telerau a'r Amodau yn llawn yma.
Cofrestrwch ac ychwanegwch eich busnes
Er mwyn creu cofnod yn y cyfeiriadur busnes, rhaid ichi yn gyntaf greu cyfrif 'Fy Musnes Cymru'.
Mewngofnodwch i ddiweddaru manylion eich busnes
Gwnewch yn siŵr fod y manylion yn gyfoes er mwyn gwneud y mwyaf o fod yn rhan o'r cyfeiriadur