Rhestrwch eich busnes

Cyn cychwyn

Er mwyn arbed amser ichi, dyma rai pethau y mae'n rhaid eu gwneud a'u gwirio cyn cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur:

  • Oes gan eich busnes gyfeiriad yng Nghymru?

    Byddwn ni'n gwirio'r cyfeiriadau.
  • Ydi eich busnes yn y cyfeiriadur yn barod?

    Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, chwiliwch am eich busnes yn 'Chwilio'r cyfeiriadur' - os yw eich busnes ar y rhestr bydd angen ichi gysylltu â'r person perthnasol yn eich busnes i wneud newidiadau i'r cofnod.

    Chwilio'r cyfeiriadur am eich busnes
  • Oes gennych chi gyfrif 'SOC'?

    Os nad oes gennych chi gyfrif ‘SOC’, gallwch greu un mewn chwinciad – unwaith eto bydd angen cyfeiriad yng Nghymru arnoch i gael eich rhestru.

    Creu cyfrif 'SOC'

Sign On Cymru

Darllenwch ein canllawiau i ddefnyddwyr ar sut i gofrestru.

Er mwyn gwneud hyn, mae'n hanfodol eich bod yn gwybod y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych yn wreiddiol i gofrestru ar Cyfeiriadur Busnes. Os na fyddwch yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost Cyfeiriadur Busnes presennol, bydd cyfrif Cyfeiriadur Busnes newydd yn cael ei greu. Os bydd angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, Cysylltwch â ni | Busnes Cymru (gov.wales) ar 03000 6 03000.

Mae Cyfeiriadur Busnes wedi gwella profiad defnyddwyr ar-lein i'n defnyddwyr drwy gyflwyno gwasanaeth Sign On Cymru. Bydd yn eich galluogi i gael mynediad at holl gyfresi digidol gwasanaethau Busnes Cymru gan ddefnyddio un enw defnyddiwr a chyfrinair. Bydd y gwasanaethau digidol hyn yn cynnwys Busnes Cymru, Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS), Cofrestr Rhanddeiliaid, Cyfeiriadur Busnes a Phorth GwerthwchiGymru.
Parhau i Sign on / Cofrestru

Os ydych chi angen help llaw gyda’ch cofnod Cymraeg, mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu a gwirio testun Cymraeg sy’n rhad ac am ddim. Am fwy o wybodaeth llyw.cymru/heloblod.

Nawr, gallwch wneud cais i gael eich cynnwys yn y cyfeiriadur

Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw mewngofnodi i’ch cyfrif ‘SOC’ a chlicio ar y ddolen ‘Ychwanegu manylion cwmni’ i gwblhau’ch cofnod Cyfeiriadur Busnes.

Byddwn yn gwirio a yw eich busnes yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cael cofnod. Os ydych chi, byddwch yn cael neges e-bost i gadarnhau fod eich cofnod wedi cael ei gyhoeddi.