Cyngor ac arweiniad Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy’n dechrau, cynnal a datblygu busnes yng Nghymru.
Yn ystod yr amseroedd anodd hyn, mae cynghorwyr arbenigol Busnes Cymru wrth law i ddarparu cymorth a chyngor i unrhyw entrepreneur neu BBaCh yng Nghymru.
Manteisiwch ar y cyfle i siarad drwy’r heriau rydych chi’n eu hwynebu gyda chynghorwyr, neu ymunwch ag un o’n gweminarau ar-lein newydd. Mae’r pynciau yn cynnwys:
- ansicrwydd busnes, incwm a rheoli llif arian
- effaith busnes yn distewi ar incwm, staff a chi’r entrepreneur
- addasu eich model busnes
- delio â chyflenwyr a chontractwyr
- arallgyfeirio digidol
- cyflawni’ch busnes yn y byd rhithwir. Taliadau ar-lein, seibrddiogelwch i farchnata digidol
- gofalu amdanoch eich hun, gan gynnwys cymorth llesiant i chi a’ch tîm
- arwain eich tîm drwy argyfwng
Gall Busnes Cymru hefyd gynnig y cyngor diweddaraf i chi ar y gwasanaethau cymorth ehangach sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- rheoli busnes mewn argyfwng
- arallgyfeirio eich busnes
- cynllunio ar gyfer y dyfodol
- llif arian a chynllunio ariannol
- cynlluniau busnes
- cael gafael ar gyllid
- marchnata
- polisïau a gweithdrefnau adnoddau dynol
- ecsbloetio digidol
- cymorth i ddechrau busnes
Am ragor o wybodaeth am ein dewis o Weminarau, cliciwch yma, neu cysylltwch â ni drwy glicio yma.
Dechrau Busnes
Gall Busnes Cymru eich helpu i ddechrau eich busnes eich hun.
Gallwn gynnig cyngor ar-lein, wyneb yn wyneb rhithwir ac ar y ffôn, ynghyd â mynediad hawdd at weithdai a gweminarau ar-lein rheolaidd, a ddarperir gan ein cynghorwyr arbenigol. Gall Busnes Cymru eich helpu i ystyried eich nodau busnes a diffinio eich amcanion. Gall ein tîm weithio gyda chi i’ch cynorthwyo i ddeall eich cystadleuwyr, i ddeall eich marchnadoedd a pharatoi eich cyllid.
Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ddechrau busnes, cliciwch yma i ofyn i ni eich ffonio yn ôl neu ffoniwch ni ar 03000 6 03000.
Rheoli eich Busnes
Gall Busnes Cymru roi mynediad hawdd i chi at wybodaeth a chyngor i’ch helpu i feithrin gwydnwch neu ddatblygu eich busnes nawr ac yn y dyfodol.
Gallwn gynnig cyngor ar-lein, wyneb yn wyneb rhithwir ac ar y ffôn, ynghyd â mynediad hawdd at weithdai a gweminarau ar-lein rheolaidd, a ddarperir gan ein cynghorwyr arbenigol. Gall Busnes Cymru eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol a blaenoriaethu eich camau nesaf. Gall ein tîm eich helpu i baratoi eich cynlluniau a’ch rhagolygon ariannol, i ddeall y ffordd orau i farchnata eich cynhyrchion neu i ystyried pa gyllid fyddai fwyaf addas dan eich amgylchiadau. Gallwn hefyd ddarparu cymorth adnoddau dynol i chi ddeall sut i addasu a rheoli’ch tîm yn y cyfnod anodd hwn.
Mae gan Busnes Cymru fynediad at amrywiaeth eang o arbenigwyr ac arbenigedd sydd wrth law i drafod sut gallech chi wella’ch gwerthiant, hyfforddi eich timau neu hyd yn oed gael mentor i weithio gyda chi wyneb yn wyneb.
Os ydych chi’n ymateb yn uniongyrchol i’r heriau a achosir gan COVID-19 neu os ydych chi’n ystyried arallgyfeirio a datblygu eich busnes, cliciwch yma i gysylltu.
Datblygu eich Busnes
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi’i llunio’n benodol ar gyfer y busnesau hynny sydd eisoes yn gweld twf sylweddol.
Gall ein tîm o Reolwyr Cysylltiadau profiadol weithio gydag entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau i helpu i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle a ddaw yn sgil twf a meithrin capasiti neu i oroesi heriau COVID-19.
Mae Rheolwyr Cysylltiadau yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â’u cleientiaid Rhaglen Cyflymu Twf i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r rhaglenni cymorth presennol tra’n teilwra cynnig sy’n diwallu anghenion penodol eich busnes. Mae’r Rhaglen yn cynnig cyfuniad o anogaeth, cyngor a chymuned i’ch helpu chi a’ch busnes i ymateb a goroesi’r cyfnod anodd hwn..
I ddysgu mwy am y rhaglen ac i weld a ydych chi’n gymwys, cliciwch yma.
Defnyddio Technoleg i Ddatblygu eich Busnes
Gall ein tîm Cyflymu Cymru i Fusnesau ddarparu mynediad hawdd at wybodaeth, cymorth a chyngor i’ch helpu i ddefnyddio technoleg yn well i sbarduno’ch llwyddiant.
Gall Cyflymu Cymru i Fusnesau gynnig cyfres o weithdai ar-lein i chi, cymorth wyneb yn wyneb wedi’i deilwra a llond gwlad o adnoddau a deunyddiau dysgu eraill.
Mae ein tîm yn cydnabod yr heriau wrth reoli busnesau yn y cyfnod anodd hwn ac wedi symud yn llwyr i wasanaeth ar-lein, gweminarau a chynghori bellach.
Os ydych chi’n gobeithio symud eich busnes ar-lein neu’n ystyried addasu yn y tymor hwy neu hyd yn oed am gynnal eich brand yn y farchnad, gall ein tîm Cyflymu Cymru i Fusnesau helpu. Gallwn gynnig dewis eang o weminarau penodol i’ch helpu i gadw mewn cysylltiad, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, defnyddio adnoddau ar-lein neu hyd yn oed eich rhoi ar ben ffordd gyda Facebook.
Am ragor o wybodaeth a manylion ein cymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau, cliciwch yma.
Cymorth yn eich cymuned leol
Mae Busnes Cymru yma i gynorthwyo twf cynhwysol - gan weithio’n genedlaethol, rhanbarthol ac yn lleol. Rydym ar gael o hyd i helpu entrepreneuriaid wireddu eu huchelgeisiau, i helpu busnesau i ffynnu a helpu eich cymuned i lwyddo.
Drwy ein rhwydwaith o Hybiau Menter rydym yn helpu i sefydlu economi cadarn, gwydn ac amrywiol. Gallwn gynnig canolbwynt, cymuned a mynediad i fannau creadigol ac arloesol i gyw entrepreneuriaid a busnesau newydd – yn ffisegol ac yn y byd rhithwir.
Mae ein Hybiau Menter wedi’u lleoli ar Ynys Môn, yn Wrecsam, y Drenewydd, Caerfyrddin a Chaerffili a gallant roi mynediad hawdd i chi at wybodaeth, cymorth a chyngor gwerthfawr.
Gan weithio ar-lein, ar y ffôn ac wyneb yn wyneb, gall yr Hybiau gynnig mynediad i chi at Fentoriaid, gweminarau, cyrsiau ar-lein a phrif siaradwyr er mwyn eich helpu i sefydlu a datblygu eich busnes newydd.
Am ragor o wybodaeth am ein Hyb Menter neu i drefnu ymweliad, cliciwch yma.