Welsh Government
COVID-19 Cymorth i Fusnesau Banner

Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) COVID-19

Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi'i thargedu at fusnesau a sefydliadau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi, sydd wedi'u heffeithio’n sylweddol gan ostyngiad o fwy na 50% o drosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.

Mae ceisiadau am y gronfa hon nawr ar agor a byddant yn parhau ar agor hyd at 4pm ar 1 Chwefror 2022.

Gwirio cymhwysedd – ERF

COVID-19 Cymorth i Fusnes

Er mwyn helpu busnesau i ganfod yr ystod amrywiol o gymorth sydd ar gael i’w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn, cymerwch olwg ar dudalennau Dod o Hyd i Gymorth Busnes COVID-19 yr ydym wedi'u creu.

Mae'r pecynnau cymorth hyn wedi'u cynllunio i gefnogi cymaint o economi Cymru â phosibl, ac maent yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cymorth ariannol i fusnesau, fel y manylir yn y dolenni isod, fodd bynnag mae cymorth cynghori busnes ar gael ar-lein drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru i'ch cynorthwyo gyda chynllunio ariannol ac adfer eich busnes pan fydd yr achosion yn dod i ben, a busnesau'n dechrau ystyried eu hadferiad.

Mae Cymru oll ar lefel rhybudd 2, mae'r rheoliadau'n ailgyflwyno mesurau diogelu mewn busnesau lletygarwch, gan gynnwys lleoliadau trwyddedig, ac mewn sinemâu a theatrau.

Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i economi Cymru gyfan, ac mae'r cymorth y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu wedi'i gynllunio i gynorthwyo cynifer o fusnesau ag y bo modd drwy'r argyfwng.

 


Maes Allweddol

Cerdyn Gweminarau Busnes Cymru
Gweminarau Busnes Cymru

Chwiliwch drwy gweminar Busnes Cymru am ddigwyddiadau busnes COVID-19 ar-lein

Cerdyn Newyddion
Newyddion Busnes Cymru

Yma gallwch ddod o hyd i newyddion busnes yn ymwneud â COVID-19

Banc Datblygu Cymru
Banc Datblygu Cymru

Fenthyciwr unigryw i fusnesau yng Nghymru